Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

beint

beint

Prynodd Sioned beint iddo a diolchodd fel pe bai wedi cael hanner y dafarn.

Ac mi es yn ôl i'r ochr, rhwng y ceir, a throi i far cyfagos am beint.

Cawsom beint y tu allan i Cill Dara, ac un arall a chinio ym Mhort Laoise, ac fe stopiodd am y trydydd tro rhyw filltir neu ddwy y tu allan i Luimneach am ei fod angen, meddai ef, "To be ready in my mind to go through the traffic in the city." Ffarweliais ag ef yn y dref gan nad oedd o ddim yn mynd i gyfeiriad yr orsaf, ac fe gredwn nad oedd yn bell i gerdded yno beth bynnag.

Codais beint o'r du, a phwy welwn yn eistedd ar stôl yng nghornel y bar ond gyrrwr y bws.

Rydw i'n mynd i'r Tarw Coch am beint neu ddau, i gael ysbrydiaeth.

'Rhag ofn i mi anghofio.' 'Roedd Rhodri newydd ddechrau ar ei beint cyntaf ar ôl eu bwyd.

Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.

Ar ôl i Bobol y Cwm orffen ac i Dad fynd allan am beint roedd Modryb wedi rhoi pregeth i Mam ar sut y dylai plant ymddwyn wrth y bwrdd bwyd.

Roedd yr hen Hugh yn ei ddyddiau cynnar yn eitha' hoff o'i beint, ond clywais Mam yn dweud na fuo hi erioed ar ôl am arian ganddo.

Dyma fo'n fy ngweld i ac yn dod ataf i ymddiheuro'n arw gan ddweud: "I've been on this f...ing street all f...ing afternoon and I've had enough" ac wedi dod am beint.

Gwenodd Rhodri ar ei beint.

Wel, doeddwn i ddim am eistedd yn y bws am ugain munud, ac felly es am beint i'r bar oedd â'i ddrws yn gyfleus iawn yn union gyferbyn â drws y bws.

Ac mae'r ffaith ein bod yn cael ein cystuddio heb beint neu ddau yn waeth na criwelti to animals, a does i ni ond un bai, ac mae hwnnw mor fychan fe aiff i mewn i las peint.

Os bu yna erioed gyfle i bennu Diwnrod Cenedlaethol Mynd ar Ci Allan am Dro neu Noson Swyddogol Mynd Allan am Beint, dyma fo.