Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwgan

bwgan

Dyma fo'n dweud wrthyn ni wedyn, pan oedd o'n blentyn, fod gan ei dad o dŷ ar Topsham Road a bod yna un stafell yn y tŷ a bwgan ynddi, ac y byddai ei dad yn ei chadw dan glo bob amser.

Ond roeddwn i'n gwybod am dŷ bwgan ym Metws-y-coed.

Ffynnai ofergoelion am ysbrydion, canhwyllau cyrff a bwgan ymhob rhyw gornel dywyll...

Mae yna hefyd gannoedd o bobol sy'n cael eu haflonyddu gan ysbrydion ac mae yna filiynau sy'n mynd drwy fywyd heb weld na chael unrhyw gyfathrach ag ysbryd na bwgan.

Ond y teitl oedd y bwgan.

Yn y rhifyn a gyhoeddwyd ar ddydd y cyfarfdo bu'r Cymro, o dan y pennawd 'Bwgan Costau'r Brifwyl', yn tynnu sylw at bryder cynnyddol.

Dilynwyd I Bant y Bwgan gan ragor o gomedi%au radio, gydag amryw ohonynt yn cael ail fywyd ar y llwyfan wedyn a rhai yn y man ar deledu hefyd.

Ond roedd ar Huw fwy o ofn tywyllwch, a bwgan, na sbeit Kelly Mair a'i ffrindiau i gyd.

Ymhlith y pethau a glywais gan Bill Parry y noson honno roedd hanes pum bwgan: hanesion am bethau yr oedd o ei hun, neu'i dad, wedi eu gweld yma.

Yn y coed uwchben yr afon roedd yna dŷ mawr brics coch ac fe fydden ni'n dangos hwn i'n gilydd ac yn dweud ei fod o'n dŷ bwgan.

Y gost oedd y bwgan yma eto, ond yn hytrach na gwario ar 'bowdwr mawr' o bryd i bryd i geisio'i symud yn ei grynswth, buasai wedi bod yn llawer mwy proffidiol i gael peiriant malu metling ('stone crusher') i lyncu'r gwenithfaen fesul tipyn, a'i werthu i wneud ffyrdd yn hytrach na'i fwrw dros y domen.

Ond, medda fo, roedden nhw'n deulu mawr ac roedd ganddyn nhw nifer o berthnasau yn Llundain yn awyddus i ddod i dreulio gwyliau efo nhw yn Exeter, ac roedd hynny'n dipyn o demtasiwn i'w dad ddefnyddio stafell y bwgan.