Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwrpasol

bwrpasol

Nid yn y daearau hyn y genir eu hepil - torllwyth o bump i naw fel rheol - ond mewn tyllau wedi'u hagor yn bwrpasol ar gyfer y rhai bach.

Mae iaith y cerddi yn llifo'n bwrpasol ac nid yw'r geiriau, fel arfer, yn cael eu gwanhau ar ôl eu trosi.

Mae nodiadau ymyl dalen ar y llawysgrifau, fel 'ceisir cymhariaeth well' a 'ceisio cael cymhariaeth bwrpasol yma' yn gwrthbrofi hyn, i raddau.

A fyddai Cymdeithas Rieni ac Athrawon yr ysgol neu'r ysgol gyfun leol yn fodlon estyn help-llaw i chi wneud cuddfan bwrpasol er mwyn gwylio adar?

Mae gwir angen cynnal ymchwil bwrpasol i ddarganfod ffyrdd deniadol ac effeithiol a fydd yn ysbrydoli a symbylu pobl ifanc i ddefnyddio'r iaith yn fwy naturiol.

* defnyddio bratiaith yn bwrpasol er mwyn sefydlu a/ neu gadw'r berthynas rhwng athro a dosbarth, neu'n anfwriadol oherwydd diffyg polisi.

Hynny yw y mae hi'n ystyrlawn, yn bwrpasol ac yn GYFAN.

Mewn stadiwm fechan wedi'i hadeiladu'n bwrpasol yr oeddem yn reslo - roedd yno dair mil yn gwylio bob nos am ddeng noson.

Cewch blesio'ch hun a ydych am gario'r olwyn y tu fewn i'r garafan neu brynu ffram bwrpasol i'w chludo oddi tani.

Ei ystyr yw 'y cyntaf' sy'n bwrpasol iawn i rai o brif folecylau sylfaenol bywyd.

Y mae nifer o gymarebau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi cyflwr busnes; rhai ohonynt yn sylfaenol i bob gweithgarwch masnachol, eraill yn bwrpasol i'r fenter unigol a'r amgylchiadau arbennig ar y pryd.

Roedd yn ddiwedd ar gyfnod prysur tu hwnt, o benodi Nick Evans fel Swyddog Comisiynu Choice, adeiladu stiwdio bwrpasol, penodi staff cyflwyno a chynhyrchu a chynllunio rhaglenni hyd at achlysur lansio llwyddiannus BBC CHOICE Wales.