Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clodydd

clodydd

Ond doedd Gwen ddim yn credu rhywsut, y byddai Niclas yn barod i ganu clodydd cwlffyn melyn, crofenllyd ar ei blat.

Wn i ddim a oeddech chi yn eistedd mor anghyfforddus a fi wrth wylior rhaglen deledu yna yn canu clodydd yr RSPCA ar S4C nos Sadwrn.

Deuai sain bandiau milwrol yn gyson dros yr awyr, a rhwng hynny clywem areithiau tanbaid, i gyd mae'n siwr yn cyhoeddi rhinweddau y sustem gomiwnyddol, a chanu clodydd y chwyldro mawr a arweiniodd at y fath gyfundrefn lweyrchus.

Nid amcan y llith hon yw canu eu clodydd na disgrifio eu hamrywiol gyfraniadau i fywyd Cymru.

Canu clodydd Charles Bukowski oedd yr albym gyntaf.

Mae chwaraewyr Abertawe, hefyd, wedi bod yn canmol clodydd Robinson.

Gan ei amddiffyn ei hun, broliodd Churchill am ei 'niwtraliaeth' honedig, tra'n canu clodydd yr heddlu.

Er bod pawb wedi hen anghofio amdanynt erbyn hyn, mae gofyn canu clodydd grwpiau fel Nid Madagascar ac Wwzz wrth drin a thrafod cerddoriaeth ddawns Cymru.