Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dafnau

dafnau

Ac meddai a'i wyneb mor glo\s at fy nhrwyn nes fy mod yn teimlo dafnau ei boer ar fy mochau.

Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.

Crynhôdd dafnau o chwys fel gwlith ar ei dalcen Symudodd yn sydyn yn ei gadair a rhoddodd hergwd i'r gath nes ei bod yn sgrialu ar hyd y llawr cerrig.

Ond er iddynt dreulio dwyawr digon anghysurus yn swatio a gwylio yng nghefn y ffynnon ni welsant undyn byw a thri digon siomedig a drodd eu hwynebau tuag adref fel y teimlent y dafnau cyntaf o law yn disgyn ar eu talcennau.