Rhoddasai ei ddiffuantrwydd a'i allu meddyliol iddo awdurdod yn yr eglwys na feiddiai ac na ddymunai neb ei amau na'i aflonyddu.
Cafwyd noson na ddymunai neb ei chofio ar y traeth y noson honno.
Yr oedd gofalu bod y cylchgrawn yn cyflawni'r swyddogaeth ddwbl yma'n hollbwysig i'r golygydd, canys gwyddai ef o brofiad am gymaint a ddymunai gadw ei fudiad hereticaidd yn fud, a'i dewi am byth, os yn bosibl.
Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.
ddymunai weld Plaid Cymru yn gweithredu'n uniongyrchol.
Ni allai ddeall, canys yr oedd popeth a ddymunai naill ai ganddo eisioes neu ara ddyfod iddo o'r pridd di-feth.
A phwy ohonom a ddymunai gael ei drin gan feddyg adnabyddus am ei ddawn i ladd cleifion?
Yn wir, nid oedd trwch y dyrfa'n ddynion rêl o gwbl ond yn hytrach gweithwyr o ddiwydiannau eraill a ddymunai ddangos eu hochr.
Gwrthodwyd ffurflenni Cymraeg i rai o'n haelodau a ddymunai agor cyfrif yn y banc.
Bu i ni weithio gyda nifer o grwpiau mewn pentrefi i astudio gwella adnoddau yno a chyda un pentref ddymunai gyhoeddi llyfr yn dilyn ymdrech o fewn y gymuned i drefnu arddangosfa o hen luniau.
Fo oedd yr un oedd yn gorfod dibynnu arno i roi iddo'r ansawdd bywyd a ddymunai.
Gallai Cymraes a ddymunai fod yn lleian ddewis ymuno â lleiandy bychan Sanclêr yn Nyfed neu ag un o'r ddau leiandy Sistersaidd yn Llanllyr, Dyfed, neu Lanllugan, Powys.
Am resymau digon amlwg datblygai y syniadau hyn gan mwyaf yng ngwladwriaethau canol Ewrop a ddymunai gystadlu'n well â'u cymdogion gorllewinol.
Yr oedd yr hen ffurfiau yn anghymwys ar gyfer dweud yr hyn a ddymunai, yr union brofiad a ysgogodd barodi Williams Parry ar 'Yr Haf.' Ond erbyn y bryddest 'Adfeilion' trodd y dull parodiol yn arf gynnil.
Hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol, felly, ychydig iawn o gefnogaeth a rôi'r awdurdodau i leygwyr a ddymunai bori yn yr Ysgrythurau.
Slipiodd William Huws hanner owns o faco'r Brython i law ddisgwylgar gyrrwr y bus a chafodd yr ateb a ddymunai.
Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r adnoddau dynol prin, argymhellir llunio BASDATA, i'w gadw'n gyfredol, a fydd yn cynnwys manylion am: Staffio a) audit o athrawon sydd yn y gwasanaeth addysg Gymraeg ar hyn o bryd, gan nodi eu meysydd dysgu; b) audit o athrawon sydd y tu allan i'r gwasanaeth addysg Gymraeg, ond sydd â diddordeb a chymwysterau, a rhai â diddordeb ac a ddymunai gymwysterau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bu'r Eglwys yn ffodus drachefn i sicrhau teulu a ddymunai barhau traddodiadau gorau'r gorffennol.