O ystyried y mater o safbwynt ariannol yn unig, hawdd yw anghofio difrifoldeb sylfaenol y cyhuddiad o ddwyn, beth bynnag yw'r swm penodol, ac effaith dedfryd o euogrwydd o gyhuddiad o'r fath nid yn unig ar enw da a chymeriad y diffinydd ond hefyd ar ei swydd, ei deulu a'i safle yn y gymdeithas.
A ddylai diffinydd gerbron llys troseddol gadw'r dewis sydd ganddo ar hyn o bryd o gael ei achos wedi ei glywed o flaen rheithgor ai peidio?
Un o argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Gyfiawnder Troseddol yw y dylid cwtogi ymhellach ar hawl diffinydd i ddewis rheithgor i glywed ei achos - hawl sydd yn deillio o'r Magna Carta.