Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frenhines

frenhines

Yn olaf mae'r frenhines ei hun yn berson cwbl anghymwys i'r gwaith o agor estyniad y Llyfrgell gan ei bod yn greadures cwbl ddiddiwylliant -- un o philistiaid amlycaf Prydain.

Cafodd y fraint o arlwyo gwledd i'r ddiweddar Frenhines Mary, ac wedi hynny, i'r Dywysoges Elisabeth (fel y'i gelwid bryd hynny), y Tywysog Philip, yr Arglwydd Mountbatten a llu o enwogion eraill, megis Mrs Eleanor Roosevelt, Syr Winston Churchill a Dug Caerloyw.

Eisiau siarad â dyn yr oedd hi, dyn cymharol ifanc ddeng mlynedd yn ôl, a dywedai wrthyf, 'Mae hi'n unig yma, ac yr ydw i'n fed-up - yn union fel petai hi'n ferch ifanc heb oed, heb boints ar nos Sadwrn, yn defnyddio iaith a oedd yn gymhwysach i'r Chweched Dosbarth nag i Frenhines Llên y Cymry.

Gwelai'r gwladweinydd pa beth a ddylid ei wneuthur er mwyn argyhoeddi llywodraeth y Frenhines Elisabeth fod rhaid cael caniatâd a chefnogaeth swyddogol er mwyn llunio'r cyfieithiad.

Y mae heddiw yn un o ddiwrnodau mawr holl hanes Cymru - y diwrnod y bydd y Frenhines yn agor yn swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol.

Hi fyddai yn gwneud y pwdin erbyn cinio, a dyna beth oedd pwdins: roly poly, pwdin berw, pwdin y frenhines, heblaw pwdin reis a thapioca.

Bur gerddorfa ar corws yn rhan o hanes wrth iddi groesawu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chyngerdd gala urddasol ym Mae Caerdydd - lle perfformiodd y casgliad mwyaf erioed o ddiddanwyr Cymreig gerbron y Frenhines, Tywysog Philip a Tony Blair.

Mae hon yn stori wych a fydd yn gwneud i bobl feddwl dwywaith am frenhines ein Llên.

Ymosodwyd ar ganghennau o'r Woolwich a'r Halifax yn Stryd y Frenhines, yn ogystal â siop ffonau symudol Orange.

Go anaml y bydd chwaraewyr da yn mentro â'r Frenhines i ganol berw'r frwydr yn gynnar yn y gêm.

Y frenhines Victoria yn marw.

Yn ystod y dyddia' hynny 'roedd hi'n beryg' bywyd, onid oeddech wedi cael swydd yn rhywle, i chi gael eich galw i wasanaethu'ch 'gwlad a'ch cyntri', ys dywedai Jac Llainsibols ac erbyn i mi gyrraedd adre' yr oedd llythyr oddi wrth y Frenhines yn fy aros yn estyn croeso cynnes i mi ymddangos o'u blaena' nhw yn Wrecsam 'na!

Yn ei haraith Jiwbili, y Frenhines, yn anuniongyrchol, yn beirniadu cenedlaetholdeb yng Nghymru a'r Alban.

Bu'r Frenhines ei hun yma yn 1955 a phe bai aelod o'r staff wedi meiddio beirniadu'r ymweliad fe fyddai wedi colli ei swydd yn y fan ar lle.

Nerth wrth gefn, felly, yw'r Frenhines a'r ddau Gastell gan amlaf - darnau i'w defnyddio gyda'r gofal mwyaf.

Y gred draddodiadol ydoedd fod awdurdod y frenhines dros ddeiliaid y deyrnas i'w gyffelybu i feistrolaeth y tad ar ei blant.

Marw'r Brenin Siôr VI ac Elizabeth II yn dod yn Frenhines.

Y gred ydi y bydd y mesur newydd yn cael ei gynnwys yn araith y Frenhines fis nesa.

Y mae'n dadlau hefyd mai â'r cyffredinol, nid â'r neilltuol, y mae a wnêl bardd, ac felly ni wiw canu i berson arbennig, fel "Yr Arglwydd Tennyson" neu "Y Frenhines Victoria%.

Roedd gan y Frenhines Elisabeth I, hyd yn oed, alcemegwr llawn amser yn ei llys ond mae'n amlwg na fu ef yn llwyddiant mawr, oherwydd cael ei gau yn Nhwr Llundain fu ei ddiwedd ef.

Y mae hwn yn symudiad da am ei fod yn agor llwybr clir i ddau o'r darnau mawr ddod allan i ganol y bwrdd - sef y Frenhines a'r Esgob.

A gwaeth na hynny yng ngolwg y llywodraeth oedd fod swyddogion y dref yn cymryd rhan yn y trafodaethau ac yr oedd y Frenhines yn bendant iawn na ddylid annog lleygwyr i fusnesu mewn materion eglwysig.

Yn ffodus iawn, fel y digwyddodd, yr oedd Davies yn gyfaill agos i Matthew Parker, archesgob Caergaint, a hefyd yn bur adnabyddus â William Cecil, prif gynghorwr y Frenhines.

Fis diwethaf, roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi herio Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol, Alun Michael, i wneud yn siwr y byddai Araith y Frenhines (sydd yn gosod ger bron raglen waith llywodraeth Westminster am y flwyddyn i ddod) yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu Deddf Addysg.

Castell Windsor yn llosgi a'r Frenhines yn cyhoeddi fod y flwyddyn wedi bod yn 'Annus Horriblis'.

Fe welir oddi wrth hyn fod dau gastell yn fwy o werth nag un Frenhines ac fod y Frenhines yr un gwerth â dau Esgob a Marchog neu ddau Farchog ac Esgob.

Bu'r gerddorfa a'r corws yn rhan o hanes wrth iddi groesawu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chyngerdd gala urddasol ym Mae Caerdydd - lle perfformiodd y casgliad mwyaf erioed o ddiddanwyr Cymreig gerbron y Frenhines, Tywysog Philip a Tony Blair.

Doedd Ynot yn neb mewn gwirionedd, ond rywfodd fe lwyddodd i briodi Arabrab, chwaer Navid y Frenhines - am ei harian, medden' hw, o achos roedd hi'n hyll fel pechod.

Ond gellid meddwl mai Davies a Salesbury a fu'n bennaf gyfrifol am ddarblwyllo'r Frenhines a'i gweinidogion fod lles crefyddol y Cymry'n bwysicach nag unffurfiaeth wladwriaethol.

Braint ac anrhydedd yw fod y frenhines yn dod i Aberystwyth ddydd ola' Mai.

Ac achos felly oedd un y Frenhines yn erbyn Silyn Lewis...

O fewn y mis yr oedd wedi cyhoeddi tair erthygl yn gorchymyn pob clerigwr i gydnabod uchafiaeth y Frenhines, i ddatgan nad oedd dim yn y Llyfr Gweddi'n groes i Air Duw ac i gymeradwyo'r cwbl o'r Deugan Erthygl namyn Un.

Mae'n wir fod brenin a brenhines newydd ar orsedd Lloegr, Sior y Pumed a'r Frenhines Mari, ac Amundsen o fewn ychydig dros fis i gyrraedd Pegwn y Deau; ond yr oedd Streic y Plocyn wedi gwneud bywyd yn anodd i'r glowyr a'u teuluoedd, y streic a geisiau sefydlu hawl y glowr i fynd a phlocynnau pren diangen adref o'r pyllau glo, y plocynnau pren a hwylusai'r dasg o gynnau tan yng ngrat y gegin.

Mae'r Frenhines yn chwarae ei rhan yn well ar stamp post.

Rhaid i ni anghofio'n gwaseidd-dra boed hynny'n sedd ar Quango Iaith neu'n wahoddiad i'r Frenhines i agor ein Llyfrgell Genedlaethol.

(i) Sicrhau bod dyddiad yr etholiad cyntaf mor fuan â phosibl ar ôl derbyn sêl bendith y Frenhines, er mwyn rhoddi mwy o amser i'r Cyngor cysgodol i wneud penderfyniadau ynglŷn â fframwaith staff a system cyflawn gwasanaethau a.y.

(Gwelsom eisoes fod y ddau gyda'i gilydd yn fwy o werth na'r Frenhines.) Y ffordd orau i gael y ddau i weithio gyda'i gilydd yn gynnar yn y gêm yw trwy Gastellu mor fuan ag sydd yn bosibl.

Ymddiriedai'r Frenhines yn llwyr yn ei harchesgob newydd ac ar unwaith gallodd lywodraethu'r Eglwys gydag awdurdod na fu'n eiddo i'w ragflaenwyr.

Y Frenhines yn dechrau talu trethi.

Clasur mawr cyntaf y Deyrnas Gyfunol yn y Gymraeg yw'r Bardd Cwsc. Y frenhines Ann gyda Llyfr Statud Lloegr dan ei naill law a'r Beibl dan y llall yw arwr y clasur hwnnw.

Y mae Prisiau'r llyfrau hyn i'w pennu a'u gosod gan yr Esgobion a enwyd a'u Holynwyr, neu gan dri ohonynt o leiaf; os bydd i'r Esgobion a enwyd neu eu holynwyr beidio â gwneud y pethau hyn, Yna bydd i bob un ohonynt fforffedu i'w Mawrhydi y Frenhines, ei Hetifeddion a'i Holynwyr, y swm o ddeugain Punt.

Llythyr gan y frenhines wnaeth i mi feddwl am hyn.

Bur sêr yn perfformio gerbron y Frenhines, y Tywysog Philip, Tywysog Cymru, Tony Blair a 60 o arweinwyr gwledydd.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi herio Alun Michael A.C. Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol i wneud yn siwr y bydd Araith y Frenhines y Mis nesaf (fydd yn gosod ger bron raglen waith llywodraeth Westminster am y flwyddyn i ddod) yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu Deddf Addysg benodol i Gymru.

Pan oedd Morgan yn blentyn fe aeth Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys pedair esgobaeth Cymru) drwy broses o Brotestaneiddio cyflym dan y Brenin Edward VI ac yna drwy adwaith Catholig pur chwyrn dan y Frenhines Mari I, ond pan oedd Morgan yn dair ar ddeg oed fe ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd a sicrhau mai Protestaniaeth Anglicanaidd fyddai crefydd swyddogol y deyrnas - Lloegr a Chymru - o hynny ymlaen.

Ymhen blynyddoedd cafodd ei anrhydeddu am ei waith gan y Frenhines gyda'r OBE Bu'n aelod ffyddlon yn Eglwys y Tabernacl ar Ffordd y Gartgh, ac wedi hir bendroni roedd yn un

Pan ddaeth taid y Frenhines yma ddechrau'r ganrif i osod carreg sylfaen y Llyfrgell roedd pawb yn Frenhinwyr pybyr.

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf dwysau a wnaeth gwrthwynebiad y Frenhines tuag at y Diwygwyr a phenderfynodd Davies ddianc am loches fel alltud ar gyfandir Ewrop.

Mae wedi ennill tair Gwobr Gramophone, Grammy (am Peter Grimes), Gwobr Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain am wasanaethau i Gerddoriaeth Prydain, Gwobr Syr Charles Groves a Gwobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ac mae'n Gymrawd Anrhydeddus Coleg y Frenhines Caergrawnt.

llwybr aur i iaith y Brython I gerdded yn fawreddog i'r ysgolion, Ac eistedd yno megys boneddiges Yn derbyn parch gan ddeiliaid y Frenhines.

Yr ydym wedi dangos gêm eisoes lle mae'r Frenhines yn cael ei herlid o bant i bentan am iddi fentro i faes y frwydr yn rhy fuan.

Y Frenhines yn agor gwaith hydro-electrig Ffestiniog.

'Dewiswch chi'r drosedd i'w chosbi, o Frenhines y Cathod,' gwichiodd Mini.

Bu'r sêr yn perfformio gerbron y Frenhines, y Tywysog Philip, Tywysog Cymru, Tony Blair a 60 o arweinwyr gwledydd.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Y frenhines Victoria yn marw.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi barnu'n llym Araith y Frenhines heddiw (Mercher, Tachwedd 17), gan nad yw'n darparu Deddf Addysg benodol i Gymru.