Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glyw

glyw

Roedd sŵn tractors wedi difetha ei glyw ers blynyddoedd.

Trwy gydol yr amser mae'r defnydd a wneir o'r iaith a ddaw i'w glyw yn ymwneud â phethau ac â digwyddiadau go iawn.

Byddai'n mynd dipyn yn grac wedyn pe digwyddai rhywun ganmol yn ei glyw y gân 'Cofio'.

Oherwydd ei fod yn drwm ei glyw byddai'r mwyaf beiddgar yn ein plith yn manteisio ar y ffaith honno er mwyn difyrru ein cyfoedion mwy llywaeth - ond roedd yn hanfodol gwneud yn siwr eich bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth cyn cymryd cam mor ddewr a herfeiddiol!

Daeth yr hanes i glyw ffotograffydd newyddiadurol ond pan aeth ef yno i dynnu llun y graffiti, roedd y tū erbyn hynny wedi cael ei losgi i'r llawr.

Buan y daethom i glyw bwrlwm afieithus y mân raeadrau wrth groesi'r bont tu cefn i Fwthyn Ogwen.

A glyw- soch am Peter Pan?

Daw rhyw hiraeth anesboniadwy drosof weithiau wrth geisio amgyffred treigl y canrifoedd: Fel ewyn ton a dyrr ar draethell unig, Fel can y gwynt lle nid oes glust a glyw, Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom - Hen bethau anghofiedig dynol ryw.

Y mae'n rhaid wrth y ddeubeth, y deunydd crai, neu'r ffeithiau y mae'r gwyddonydd yn eu cael o'r byd o'i gwmpas, yr hyn a wêl y llygad ac a glyw'r glust, a hefyd y peirianwaith cywrain sy'n rhan o gynheddfau'r meddwl i ddosbarthu a threfnu'r deunydd hwn.