Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwthiodd

gwthiodd

Tyd imi gael cip.' Gwthiodd Elen ei brawd o'r neilltu ac ysgwydodd y llwyn yn synllyd.

Yn raddol, gwasgarodd pawb a gwthiodd Dilwyn, Rhian ac Ifan eu beiciau'n araf i ben y rhiw cyn dringo arnynt a theithio'n flinedig hyd bentref y Bont, heb ddweud gair.

Gwthiodd y bygi i ben y stryd, rownd y gornel ac i fyny'r rhiw at y siopau.

Stopiodd Dilwyn, ond gwthiodd Ifan ef o'i flaen ac allan drwy'r drws.

Gwthiodd y bwtler gadair wiail laith yn erbyn cefn fy nghoesau ac eisteddais i lawr.

`Rydw i wedi blino.' `A finne,' meddai Debbie, `Fe fydda i'n falch i ...' Ni chafodd gyfle i orffen yr hyn yr oedd hi'n mynd i'w ddweud oherwydd gwthiodd dyn heibio iddi, gafaelodd yn y bag arian a rhedodd lawr y stryd.

Gwthiodd ei hun ymlaen ar ei ben-lin a'i benelin dde am ychydig, gan lusgo'i fraich a'i goes chwith yn boenus ar ei ôl.

Gwthiodd ei ffordd tua drws ym mhen pella'r stafell.

Gwthiodd Geraint Myrddin o'r ffordd a gweiddi, 'Oes 'na rywun yna?' mewn llais isel, fel roedd o wedi'u gweld nhw'n gwneud droeon mewn ffilmiau ysbryd.

Gwthiodd y dynion y jet i'r cwt.

Wrth i'r fen droi i'r chwith ar y groesffordd gwthiodd gardiau drwy'r hollt yn y drysau ôl.

Gwthiodd Geraint ei wyneb mor agos ag y medrai i'r agen, i gael rhyw syniad beth oedd i'w weld y tu allan, a lle'r oedden nhw.

Gwthiodd Seren lawer het ffelt galed dros glustiau coch gwladaidd y diwrnod hwnnw.

Gwthiodd flaenau'r pinniau i ddau ymyl y cerdyn, tua hanner ffordd i fyny, i ffurfio echel i droi'r cerdyn arno.

Gwthiodd ei ddwylo i'w bocedi a chrwydro o gwmpas, gan gamu dros y ffeiliau a mynd at un o'r silffoedd.

"Y...nid chi 'dy'r dyn diarth sydd wedi prynu'r Nefoedd 'ma?" "Ia...gwaetha'r modd." "Falch ofnadwy o'ch cyfarfod chi," a gwthiodd Elis Robaitsh ei law fawr drwy ffenestr y car i J.R gael ei hysgwyd hi.

Gwthiodd Elen ei brawd o'r neilltu ac ysgwydodd y llwyn yn synllyd.

Fe agora i e.' Gwthiodd Paul, y bachgen hynaf, y lleill i'r ochr a gafaelodd ym mwlyn drws y wardrob.

Un noson gwthiodd moryn ddrws ei ystafell yn agored pan oedd yn ei wely nes yr oedd yn wlyb domen.

Cariad pob Comi a Nash yr ochr 'ma i Glawdd Offa, boed e'n ddyn neu'n ddynes.' Gwthiodd Dilwyn ei ddwylo'n ddwfn i'w bocedi a chymryd anadl ddofn cyn troi i wynebu Gary Jones.

'Gwthiodd Iestyn ei ddwylo yn ddwfn i boced ei gôt ac aeth ias fach o gryndod trwyddo.

Gwthiodd Rod fysedd i'w wyneb.

Plannodd ei llaw i ganol y jwg chwart ac yna sodro'r dannedd yn ei cheg; gwthiodd ei thraed i'w slipars rywsut-rywsut a'i ffwtwocio hi am y ffenestr.