Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynyddol

gynyddol

Wedi trech y daith genhadol, yr oedd angen gorffwys ar y disgyblion a chyfle i adolygu'r genhadaeth gyda Christ; ac wedi marwolaeth ysgytiol Ioan Fedyddiwr a'r elyniaeth gynyddol o du'r Phariseaid a'r Herodianiaid i Grist, ar ben ei brysurdeb mawr gyda'i ddamhegion a'i wyrthiau, yr oedd angen encil ar yr Arglwydd Iesu hefyd.

Yn gynyddol, byddant yn cynnal ac estyn sgwrs ac yn dadlau ac yn cyfiawnhau eu safbwynt.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sylwodd Cymdeithas yr Iaith ar gefnogaeth gynyddol i'w galwad am Ddeddf Iaith.

Ond roedd y byd hwn yn chwalu cyn i mi gael fy ngeni, ac yn chwilfriwio'n gynyddol gyflym trwy gydol y tridegau, y pedwardegau a'r pumdegau.

Ceir dewis rhwng gweithio'n gyflym gynyddol ar y naill law, neu gymysgu'n araf ddryslyd flêr ar y llaw arall.

Ymatebodd y cenedlaetholwyr mewn dwy ffordd i ergyd farwol y bleidlais nacaol, ymgyrchu o blaid cael y bedwaredd sianel i Gymru ac ymgyrchu yn erbyn problem gynyddol y tai haf.

Un o'r prif sialensau i BBC Cymru yw datblygu BBC Radio Wales, wrth iddo wynebu cystadleuaeth gynyddol gan y sector annibynnol.

Mae cyfraniad y sector gwirfoddol o ran darparu gwasanaethu i'r cyhoedd wedi dod yn gynyddol bwysig, yn enwedig y gwasanaethau gofal a chynghori.

Dros y blynyddoedd aeth baich gofalu am weithgareddau drama'r Eisteddfod yn gynyddol drymach a theimlodd Emyr Jenkins, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar y pryd, y dylid ysgafnu rhyw gymaint ar lwyth gwaith ei Drefnwyr yn y De a'r Gogledd.

Dylai'r dysgu lywio gwybodaeth gynyddol am iaith ac ymwybyddiaeth gynyddol bod iaith yn gwasanaethu amrediad o ddibenion ac yn amrywio yn ôl y cyd-destun a'r gynulleidfa neu'r darllenwyr.

Adnewyddu capeli mewn ardaloedd lle mae dyrnaid o Gymry Cymraeg yn dal i gadw Seion, Soar a Bethlehem i fynd ar gost gynyddol, pan fyddai pawb, a dweud y gwir, yn gallu ffitio i fewn i festri Seion yn deidi.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

Byddai clustnodi dyraniad arbennig i'r Gymdeithas i'w sianelu i'r ardaloedd yma yn fodd i weithredu'n adeiladol i gyfarfod â'r broblem gynyddol yma yn ein cymunedau.

Wyneba radio'r BBC yng Nghymru gystadleuaeth gynyddol, ond mae gwasanaethau radio y BBC yn perfformio'n llawer gwell na chyfartaledd y DG, gyda BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn ychwanegu'n sylweddol at nifer gwrandawyr radio'r BBC. Gyda'i gilydd, mae 18 y cant o'r boblogaeth yn gwrando ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru bob wythnos.

A hithau'n dal i ddiferu ar ôl cymryd cawod o dan fwced dyllog, fe ddywedodd un wraig, Im Sarin, wrtha' i fod y prinder o ddynion yn gosod straen gynyddol ar wragedd sy' wedi diodde' cymaint yn barod.

Ond o gofio fel y mae ffwndamentaliaeth Foslemaidd yn ennill cefnogaeth gynyddol mewn llawer rhan o'r byd, hwyrach y gallwn sylweddoli fod adegau pan geir miloedd o bobl yn cofleidio disgyblaeth chwyrn.

Hanes y myfyriwr, Lenz, sydd yma, dyn ifanc a oedd wedi bod yn weithgar ynghanol cynnwrf y chwedegau ond sydd, ar ôl cael ei siomi pan ddaeth y cyfan i ben, yn teimlo'n gynyddol ynysig.

Mae'r angen yn cael ei ddwysau gan y ffaith fod nifer gynyddol o'r athrawon pwnc sydd yn dysgu'n y sector uwchradd wedi cychwyn fel dysgwyr.

Mae nifer gynyddol o ysgolion traddodiadol uwchradd (o'u cyferbynnu ag ysgolion dwyieithog penodedig) yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd mwy o arian nag erioed o'r blaen ar gael i greu gwasanaeth rhaglenni sy'n cwrdd â'r sialens sy'n ein wynebu mewn marchnad gynyddol gystadleuol.

Os ydym am ddatblygu gweithlu sy'n gynyddol rugl yn y Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n rhwydd ym myd gwaith, bydd yn rhaid cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc dderbyn addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Mae'n wir bod cyfundrefn addysg - gynyddol bwysig - yr ysgolion gramadeg a'r prifysgolion yn milwrio yn ei herbyn, ac yr oedd tuedd ymhlith rhai o'r dosbarth masnachol hefyd i anghofio eu Cymraeg, yn ol tystiolaeth John Davies.

Ond os ydym yn anelu tuag at Gymru sy'n gynyddol ddwyieithog dylid ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddwyieithrwydd drwy sicrhau fod pob plentyn sy'n derbyn addysg feithrin yn cael blas o'r Gymraeg fel rhan o brofiad addysgol cynnar.

Yn rhesymegol gynyddol.

Yn gynyddol, gallant fyfyrio'n annibynnol ar yr hyn a ysgrifennwyd ganddynt.

Wedi'r cwbl yr oedd swydd esgob - yn enwedig Esgob Tyddewi - neu archddiacon neu ddeon yn gallu bod yn ffynhonnell cryn gyfoeth, ac felly tueddid yn gynyddol i roi'r swyddi hyn yn wobrau i ffefrynnau'r brenin a'r arglwyddi.

Ac yr oedd ganddynt gynulleidfa gynyddol o ddarllenwyr.

Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.