Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymwared

ymwared

Yn y spectrwm cenedlgarol yr oedd hefyd y math o dduwioldeb hiraethus a ddyheai am ymwared i'r bobl Iddewig ond a ymddiriedai nid mewn unrhyw fraich o gnawd ond, gan ddilyn Eseia a phroffwydi eraill, yn nerth ysbrydol yr Arglwydd.

Nid oherwydd unrhyw hoffter ohonof fi, mi wyddwn, ond am fy mod yn ffordd ymwared iddo ar y funud.

Y mae gwacter bythol yma megis pan gipier dyn o'i hynt gartrefol...Caeais y drws gan wybod na chawn ymwared o Seren byth.

Yng nghân Simeon cyplysir yr ymwared â gogoniant Israel ac estyniad y goleuni i'r cenhedloedd.

yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.

Mynega Anna broffwydes ei llawenydd 'wrth y rhai oll a oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem'.

Heb ddweud fod y mudiad ysbrydol hwn yn 'blaid' neu'n 'sect' carwn ei ddisgrifio fel mudiad y Disgwylwyr am Ymwared a honni ei fod yn rhan gwbl bwysig o fagwraeth a chefndir Ioan Fedyddiwr ac Iesu o Nasareth.

Prysura ymwared, ein Duw grasol, ac achub ein plant.

Nid gŵr diddig mohono ef ar y gorau, wrth gwrs; ond gellid bod yn ddiolchgar am ei fod o leiaf wedi ymwared a'i brudd-der a'i ddiffyg pwrpas wrth fopio'i ben ar yr ymlid yma.

Ceir yr un math o obaith angerddol yn Nuw yng nghaniadau Mair a Sacharias lle y cyfunir y dyheadau am ymwared cenedlaethol a chyfiawnder cymdeithasol.