Index: anhysbys

Cariad Cyntaf

anhysbys

Contributed by: David Wood

Traddodiadol (casglwyd c.1912)

Mae prydferthwch ail i Eden
yn dy fynwes gynnes feinwen
fwyn gariadus liwus lawen,
seren syw, clyw di'r claf.

Addo'th gariad i mi heno
gwnawn amodau cyn ymado
i ymrwymo, doed a ddelo:
rho dy gred, a d'wed y doi.

Yn dy lygaid caf wirionedd
yn serennu gras a rhinwedd,
mae dy weld i mi'n orfoledd;
seren syw, clyw di'r claf.