Index: Ann Griffiths 1776-1805

Rhyfedd, Rhyfedd

Author: Ann Griffiths 1776-1805

Contributed by: David Wood

Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,
  Rhyfeddod fawr yng ngolwg ffydd,
Gweld rhoddwr bod, cynhaliwr helaeth
  A rheolwr popeth sydd
Yn y preseb mewn cadachau
  A heb le i roi'i ben i lawr,
Eto disglair lu'r gogoniant
  Yn ei addoli'n Arglwydd mawr.

Pan bo Seinai i gyd yn mygu
  A sw+n yr utgorn ucha'i radd,
Caf fynd i wledda tros y terfyn
  Yng Nghrist y Gair heb gael fy lladd.
Mae yno'n trigo bob cyflawnder,
  Llond gwagle colledigaeth dyn;
Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
  Gwnaeth gymod trwy ei offrymu ei hun.

Efe yw'r iawn fu rhwng y lladron,
  Efe ddioddefodd angau loes,
Efe a nerthodd freichiau ei ddienyddwyr
  I'w hoelio yno ar y groes;
Wrth dalu dyled pentewynion
  Ac anrhydeddu deddf ei Dad,
Cyfiawnder, mae'n disgleirio'n danbaid
  Wrth faddau yn nhrefn y cymod rhad.

O f'enaid, gwêl y fan gorweddodd
  Pen brenhinoedd, awdur hedd;
Y greadigaeth ynddo'n symud,
  Yntau'n farw yn y bedd;
Cân a bywyd colledigion,
  Rhyfeddod fwya' angylion nef;
Gweld Duw mewn cnawd a'i gydaddoli
  Mae'r côr dan weiddi 'Iddo Ef!'

Diolch byth, a chanmil diolch,
  Diolch tra bo ynw'i chwyth,
Am fod gwrthrych i'w addoli
  A thestun cân a bery byth;
Yn fy natur wedi ei demtio
  Fel y gwaela' o ddynol ryw,
Yn ddyn bach, yn wan, yn ddinerth,
  Yn anfeidrol wir a bywiol Dduw.

Yn lle cario corff o lygredd,
  Cyd-dreddio â'r côr yn danllyd fry
I ddiderfyn ryfeddodau
  Iechydwriaeth Calfari;
Byw i weld yr Anweledig
  'Fu farw ac sy'n awr yn fyw,
Tragwyddol anwahanol undeb
  A chymundeb â fy Nuw.

Yno caf ddyrchafu'r Enw
  A osododd Duw yn Iawn,
Heb ddychymyg, llen, na gorchudd,
  A'm henaid ar ei ddelw'n llawn;
Yng nghymdeithas y dirgelwch
  Datguddiedig yn ei glwy,
Cusanu'r Mab i dragwyddoldeb
  Heb im gefnu arno mwy.