Index: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Cyflafan Morfa Rhuddlan

Author: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Contributed by: David Wood

Cilia'r haul draw dros ael bryniau hael Arfon,
Llenni nos sy'n mynd dros ddo a rhos weithion,
Pob rhyw chwa ymaith a gilia o'r llwyni,
Ar fy nghlust draw mae ust y don yn distewi;
Dan fy mron clywa'm llon galon yn curo
Gan fawr rym dicter llym wrth im fyfyrio
Ar y pryd pan fu drud waedlyd gyflafan,
Pan wnaed brad Cymru fad ar Forfa Rhuddlan.

Trwy y gwyll gwelaf ddull teryll y darian,
Clywaf si eirf heb ri arni yn tincian;
O'r bwa gwyllt mae'n gwau saethau gan so
A thrwst mawr nes mae'r llawr rhuddwawr yn siglo;
Ond uwch sain torf y rhain ac ochain y clwyfawg
Fry hyd nef clywir cref ddolef Caradawg -
'Rhag gwneud brad ein hen wlad trown eu cad weithian,
Neu caed lloer ni yn oer ar Forfa Rhuddlan.'

Wele fron pob rhyw lon Frython yn chwyddo,
Wele'u gwedd fel eu cledd fflamwedd yn gwrido,
Wele'r fraich rymus fry'n dyblu'r ergydion,
Yn eu nwy' torrant trwy lydain adwyon;
Yr un pryd Cymru i gyd gyfyd ei gweddi, -
'Doed yn awr help i lawr yn ein mawr gyni;
Boed i ti, O ein Rhi, noddi ein trigfan,
Llwydda'n awr ein llu mawr ar Forfa Rhuddlan.'

Trosof daeth, fel rhyw saeth, alaeth a dychryn,
Och! rhag bost, bloeddiau tost ymffrost y gelyn;
Ond O, na lawenha, fel a wna orchest,
Nid dy rym ond dy ri' ddug i ti goncwest.
Ow! rhag braw'r dorf sy draw'n gwyliaw o'r drysau,
Am lwydd cad Cymru fad, - rhad ar ei harfau;
Mewn gwyllt fraw i'r geillt fry rhedy pob oedran
Wrth weld brad gwy eu gwlad ar Forfa Rhuddlan.

Bryn a phant, cwm a nant, lanwant a'u hoergri;
Traidd y floedd draw i goedd gymoedd Eryri;
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru
Am fawr freg ei meib teg, gwiwdeg, yn gwaedu;
Braw a brys sydd trwy lys parchus Caradawg,
Gweiddi mawr fynd i lawr flaenawr galluawg;
Geilw ei fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery do hen 'Forfa Rhuddlan'.

Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio
Am y fan mae eu rhan farwol yn huno;
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod,
A'i wyrdd frwyn a'r hesg lwyn yw eu mwyn gofnod;
Ond caf draw, gerllaw'r llan, drigfan uchelfaith
Ioan la, hoffwr ca, diddan gydymaith;
Ac yn nhy'r Ficar fry, gan ei gu rian,
Llety gaf, yno'r af o Forfa Rhuddlan.