Contributed by: David Wood
'E ddiflannodd clog y glaw,
F'anwylyd wiw,
Oedd yn toi'r Eryri draw,
F'anwylyd wiw;
Mae yr haul ar hyn o dro
Yn goreuro bryniau'n bro;
I'r hafoty rhoddwn dro,
F'anwylyd wiw.
Ni gawn wrando'r creigiau crog,
F'anwylyd wiw,
Yn cydateb ca y gog,
F'anwylyd wiw,
A diniwed fref yr w,
A'r eidionau ar bob twyn,
A'r ehediaid llon o'r llwyn,
F'anwylyd wiw.
Ond ar fyrder beth i mi,
F'anwylyd wiw,
Fydd Cwmdyli hebot ti,
F'anwylyd wiw?
Yn iach i wrando d'atsain dlos
Wrth dy wylio dros y rhos
Y dod i odro fore a nos,
F'anwylyd wiw.
Ac ynghanol dwndwr tre,
F'anwylyd wiw,
A diddanion llon y lle,
F'anwylyd wiw,
Nac anghofio un a fydd
Ar dy o yn wylo'n brudd
Yng Nghwmdyli nos a dydd,
F'anwylyd wiw.