Contributed by: David Price
ALAW, - Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth.
Ar y mynydd rhodiai bugail,
Gwelai 'r gelyn ac yn uchel,
Bloeddiodd allan - "Llongau Rhyfel!"
Yna clywai gorn y gād.
Corn y gād!
Dyna ganiad corn arswydion,
Traidd ei ddolef trwy Blunlumon,
Cawdor sydd yn galw 'i ddynion.
Corn y rhyfel hollta 'r nefoedd,
Tery arswyd trwy 'r mynyddoedd,
Etyb creigiau pell y cymoedd
Gorn y gād.
Fel mae Draig hen Gymru 'n deffro
Tan y amynydd yn ei hogo',
Cerrig ateb sydd yn bloeddio,
Chwythu 'n uwch wna corn y gād;
Corn y gād!
Meibion Berwyn ydynt barod,
Llifant o'r mynyddoedd uchod,
Duant y gwastadedd isod;
Meirch i'r frwydyr gydgarlamant,
Holl gleddyfau Cymru fflamiant,
Mewn urdduniant, cydatebant
Gorn y gād!