Index: John Ceiriog Hughes

Llances y Dyffryn

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, - Llances y Dyffryn.

Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn,
Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn;
Glanach yw 'r defaid ar ochr y bryn,
Gwynnach yw 'r alarch ar ddwfr y llyn:
Clysach yw 'r blodau, a glasach yw 'r coed;
Harddach, prydferthach y byd nag erioed.
Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn,
Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.

Llances y Dyffryn oleuodd y fro,
Gloewach yw 'r afon a glanach yw 'r gro;
Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed,
Hoenach yr awen na bu erioed.
Hoffach yw 'r Dyffryn a llonnach pob lle,
Mwynach yw 'r awel o'r dwyrain a'r dê;
Trom fu fy nghalon, ond 'rwan distawn,
Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.