Index: Miscellaneous

Englynion y Beddau (The Stanzas of the Graves)

Author: Unknown

Contributed by: David Wood

E betev ae gulich y glav,-
gvir ny tywnassint vy dignav:
Kerwid a Chivrid a Chav. 

E betev ae tut gvitwal,-
ny llesseint heb ymtial:
Guryen, Morien a Morial. 

E betev ae gvlich kauad,-
gvyr ny llesseint in lledrad:
Gwen a Gurien a Guriad. 

Bet Tedei tad awen
yg godir Brin Aren;
yn yd vna ton tolo
Bet Dilan Llan Bevno. 

Bet Keri cletifhir ygodir Hen Eglwys
yn y diffuis graende,
tarv torment, ymynwent Corbre.

Bet Seithennin sinhuir vann
y rug Kaer Kenedir a glann
mor, mauridic a kinran. 

En Aber Gwenoli
y mae ber Pryderi;
yn y terev tonnev tir
yg Karrauc bet Gwallauc Hir. 

Bet Gwalchmei ym Peryton
ir diliv y dyneton;
in Llan Padarn bet Kinon. 

Bet gur gwaud urtin in uchel tytin
in isel gwelitin,
bet Kynon mab Clytno Idin. 

Bet Run mab Pyd in ergid avon
in oervel ig gverid;
bet Kinon in Reon rid. 

Piev y bet y dan y brin?
Bet gur gurt yg kyniscin,
Kinon mab Clytno Idin. 

Bet mab Ossran yg Camlann,
gvydi llauer kywlavan;
bet Bedwir in alld Tryvan. 

Bet Owein ab Urien im pedrya[e]l bid,
dan gverid Llan Morvael;
in Abererch Riderch Hael. 

Guydi gurum a choch a chein
a goruytaur maur minrein,
in Llan Helet bet Owein. 

Gwydi gweli a gaedlan
a gviscav seirch, a meirch cann,
neud ew hun bet Kintilan. 

Piev y bet da y cystlun
a wnai ar Loegir lv kigrun?
Bet Gwen ab Llyuarch Hen hun. 

Piev y bet in yr amgant
ae tut mor a goror nant?
Bet Meigen mab Run, rviw cant. 

Piev y bet in yr inis
ae tut mor a goror gwris?
Bet Meigen mab Run, rvif llis. 

Es cul y bet ys hir
in llurv llyaus Amhir,
Bet Meigen mab Run, ruyw gwir. 

Tri bet tri bodauc in arterchauc brin
ym Pant Gwinn Gvinionauc:
Mor a Meilir a Madauc. 

Bet Madauc, mur egluc yg kywluc  kinhen,
vir Vrien gorev[c],
mab y Guyn o Winllyuc. 

Bet Mor maurhidic, diessic unben,
post kinhen kinteic,
mab Peredur Penwetic. 

Bet Meilir maluinauc saluvodauc sinhvir,
ffiscad fuir fodiauc,
mab y Bruin o Bricheinauc. 

Piev y bet in Rid Vaen Ked
ae pen gan yr anvaered?
Bet Run mab Alun Diwed. 

Bet Alun Dywed yn y drewred drav,
ny kiliei o caled,
mab Meigan mad pan aned. 

Bet Llia Gvitel in argel Arduduy
dan y gvelt ae gvevel;
bet Epint inyffrin[t] Gewel. 

Bet Dywel mab Erbin ig gwestedin Caeav
ny bitei gur y breinhin,
divei ny ochelei trin. 

Bet Gurgi gvychit a Guindodit lev
a bet Llaur, llu ouit,
yg guarthaw Guanas Guyr yssit. 

E beteu hir yg Guanas,-
ny chauas ae dioes
pvy vynt vy, pvy eu neges. 

Teulu Oeth ac Anoeth a dyuu ynoeth
y eu gur, y eu guas;
ae ceisso vy clated Guanas. 

Bet Llvch Llaueghin ar Certenhin avon,
pen Saeson suyt Erbin,
ny bitei drimis hrb drin. 

E beteu yn Hir Vynyt
yn llvyr y guyr lluossit:
bet Gvryen gvrhyd enguavc
a Llvytauc uab Lliwelit. 

Pieu yr bet yn y mynyt
a lyviasei luossit?
Bet Fyrnuael Hael ab Hyvlyt. 

Pieu ir bet hun? Bet Eitivlch Hir,
ig gurthtir Pennant Turch,
mab Arthan gywlauan gyuulch. 

Bet Llev Llaugyfes y dan achles mor,
yn y bu y gywnes,
gur guir y neb ny rodes. 

Bet Beidauc Rut yn amgant Riv Lyvnav,
bet Lluoscar yg Keri,
ac yn Ryd Britu bet Omni. 

Pell y vysci ac argut,
gueryd Machave ae cut:
hirguyn bysset Beidauc Rut. 

Pell y vysci ac anau,
gueryd Machave arnau,
Beidauc Rut ab Emer Llydau. 

Bet unpen o Priden yn lleutir Guynnassed,
yn yd a Lliv yn Llychur;
ig Kelli Uriauael bet Gyrthmul. 

E bet yn Ystyuacheu
y mae paup yn y amheu,
bet Gurtheyrn Gurtheneu. 

Kian a ud yn diffeith cnud drav,
otuch pen bet alltud,
bet Kindilic mab Corknud. 

Neum duc i Elffin y prowl vy bartrin
gessevin vch kinran,-
bet Ruvaun ruyvenit ran. 

Neum duc i Elffin y browl vy martrin
vch kinran gessevin,-
bet Ruvaun ry ievanc daerin. 

Bet y March, bet y Guythur,
bet y Gugaun Cledyfrut;
anoeth bid bet y Arthur. 

Bet Elchwith ys gulich [y] glav,
Maes Meuetauc y danav;
dyliei Kynon y kuinav. 

Piev y bet hun, a hun?
Gowin ymi, mi ae gun:
bet ew bet Eitew oet hun,
a bet Eidal tal yscvn. 

Eitew ac Eidal, diessic alltudion,
kanavon cylchuy drei;
mekid meibon Meigen meirch mei. 

Piev y bet hun? Bet Bruyno Hir,
hydir y wir in y bro:
parth yd vei ny bitei fo. 

Piev y bet hun? nid
aral guythuch urth ervid,
trath lathei chvartei vrthid. 

Bet Silit dywal in Edrywuy le,
bet Llemenic in Llan Elvy
yg Guernin bre bet Eilinvy. 

Bet milur mirein gnaud kelein oe lav
kin bu tav y dan mein,
Llachar mab Run yg Clun Kein. 

Bet Talan talyrth yn ygyrth teircad,
kymynad pen pop nyrth,
hyget, agoret y pirth. 

Bet Elissner ab Ner inywinder daear,
diarchar dibryder,
pen llv tra wu y amser. 

Bet gur gurt y var, Llachar llyv niver,
in aber duwir Dyar,
yn y gvna Tavue toniar. 

Piev y bet in y Ridev?
Bet Ruyw yw, mab Rigenev,
gur a digonei da ar y arwev. 

Piev y bet hun? Bet Breint
y rug Llewni ae lledneint,
bet gur guae y isscereint. 

Piev y bet in llethir y brin?
Llauer nys guir ae gowin:
bet y Coel mab Kinvelin. 

Bet Deheveint ar Cleveint awon,
yg gurthtir Mathauarn,
ystifful kedwir cadarn. 

Bet Aron mab Diwinvin in Hirgweun le;
ny dodei lew ar ladron,
ny rotei gwir y alon. 

Bet Tawlogev mab Llut in y trewrud trav,
mal y mae in y kystut,
ae clathei, [ef] caffei but. 

Piev y bet ar lan Ryddnant?
Run y env, radev keucant,
ri ew, Riogan ae gvant. 

Oet ef kyfnissen y holi galanas,
gua[iua]wr [r]ut, grut aten;
a chen bvir but, bet Bradwen. 

Piev y bet pedrival
ae pedwar mein am y tal?
Bet Madauc, marchauc dywal. 

En Eiwonit, Elvit tir,
y mae [bet] gur hyduf hir:
lleas paup pan rydighir. 

E tri bet yg Kewin Kelvi,
awen ae divaud imi:
bet Kinon garv y duyael,
bet Kinvael, bet Kinveli. 

Bet Llvid lledneis ig Kemeis tir:
kin boed hir tuw y eis,
dygirchei tarv trin o treis. 

Bet Siaun svberv in Hirerv minit
y rug y gverid ae derv,
chuerthinauc, bra[da]uc, bridchuerv. 

Piev y bet in y clidur?
Tra wu ny bv eitilur,-
bet Ebediv am Maelur. 

Piev y bet in yr allt trav?
Gelin y lauer y lav,
tarv trin, trugaret itav. 

Y beddau yn y Morua,
ys bychan ay haelewy:
y mae Sanant, syberw vun,
y mae Run ryuel afwy,
y mae Garrwen verch Hennin,
y mae Lledin a Llywy. 

Bed Hennin Henben yn aelwyt Dinorben,
bed Airgwl yn Dyuet;
yn Ryt Gynan Cyhoret. 

Gogyuarch pob diara
pieu yr vedgor yssy yma:
bed Einyawn ab Cunedda,
cwl ym Prydein y ddiua. 

Piev yr bed yn y Maes Mawr?
Balch y law ar y lafnawr,-
Bed Beli ab Benlli Gawr.