Contributed by: David Wood
O, falmaidd hafaid hwyr,
Distawodd byd yn llwyr
I wrando'th suon di.
Yn grwydrol chwa lesga i gwsg
Dan swyn aroglau rhos a mwsg,
A huno bron mae sw+n y lli.
Swil adar cudd y gwair a'r y+d,
Eu seiniau hwy sydd swyn a hud
O dan dy esmwyth adain di.
Na thorred sain, O dyner nos,
Ar ysgafn hun Awrora dlos;
Rhy fyr, rhy fyr ei chyntun hi!
O, dawel nos o haf,
Dy falm lonyddo'r claf,
Dy suon leddfo'i loes.
Na wyped cwsg y gweithiwr blin -
Y cwsg a w+yr dy rywiog rin -
Ar fore dydd mor fer dy oes!