Contributed by: David Wood
Yng nghanol dwndwr anfad gwlad y glo
Mae imi hiraeth am Eryri wen,
Yr Wyddfa fawr a'i chrib yng nglas y nen
A'r bwthyn gwyn a'r mwsog ar ei do.
Mi welaf borffor rug ar fryniau'r fro
A rhedyn hydref yntau'n euraid len;
O'm lludded pe cawn arnynt bwyso 'mhen
Diflannai fy nhrallodion o fy ngho.
Cawn orffwys a breuddwydio am y daith,
Y more serch yn ardal Peris Sant,
Hyd lwybrau'r gwyllt glogwyni yn y gwynt,
Dan gysgod llaes y Lliwedd llwm a llaith:
Yr aros dan y gromlech yn y nant
A'r oslef swynol glywais yno gynt.