Index: Owen M. Edwards

Gwaith Samuel Roberts

Author: Samuel Roberts

Contributed by: David Price

Transcribed from the 1906 Ab Owen edition by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk

Rhagymadrodd.

Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800.  Bu farw yng Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwyd ef i huno.

O’r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R.  Yr oedd ei dad, John Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair.  Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,—

                  John Roberts - Mary Brees y Coed.
                  (1767-1834)  |
                               |
         +--------+------------+--------+-------------+
       Maria   Samuel         Anna     John        Richard
      (1797)   (S.R.)        (1801)    (J.R.) (Gruffydd Rhisiart)
         |  (1800-1885)            (1804-1884)     (1810-1883)
         |
     Gohebydd
        - 1877.

Symudodd John Roberts a’i deulu, tua 1806, o Dy’r Capel i ffermdy y Diosg dros yr afon ar gyfer.  “Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth” oedd y Diosg; ac efe yw Cilhaul.

Daeth S. R. yn gynorthwywr i’w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel tenant y Diosg yn 1834.  Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu gadael Llanbrynmair,—aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i’r America.

Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno ’n ol Awst 30, 1867.  Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dŷ ei alltudiaeth,—Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee.  Cafodd ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit Dickens.  Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw’r ymdrech mewn gwlad anial.  A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau.  Teimlai fod y ddwy ochr i’w beio, ac mai dyledswydd y Gogledd oedd talu pris rhyddhad y caethion i wyr y De.

O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu’r tri brawd byw yn yr un cartref yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i’r un fynwent.

Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru.  Bu ef a’i frodyr mewn llu o ddadleuon,—y mae y gornestwyr oll wedi tewi erbyn hyn,—a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad.  Bu ei Gronicl yn foddion addysg i filoedd.  Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i werin yn erbyn gorthrwm o bob math.  Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a’i frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan Jones.

Wele ddwy ran nodweddiadol o’i waith.  Bu y Caniadau yn hynod boblogaidd; y teulu yn Llanbrynmair yw’r “Teulu Dedwydd.”  Hwy hefyd yw teulu “Cilhaul,” ac y maent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd eto.

OWEN EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Awst 1, 1906.

Photograph of Samuel Roberts, Llanbrynmair

CYNHWYSAID.

1.  CANIADAU BYRION.

[Argraffwyd y Caniadau hyn laweroedd o weithiau, ac y maent wedi bod yn foddion cysur i genhedlaethau o werinwyr.  Dont o flaen adeg y Bardd Newydd, nid oes dim yn gyfriniol yn eu dyngarwch syml, eu tynherwch mwyn, a’u synwyr cyffredin cryf.]

Y Teulu Dedwydd
Marwolaeth y Cristion 
Y Lili Gwywedig      
Cân y Nefoedd   
Ar farwolaeth maban   
Y Cristion yn hwylio i fôr gwynfyd
Cwyn a Chysur Henaint
Mae Nhad wrth y Llyw
Y Ddau Blentyn Amddifad
Cyfarchiad ar Wyl Priodas
Dinystr Byddin Sennacherib
Gweddi Plentyn
Cwynion Yamba, y Gaethes ddu
Y creulondeb o fflangellu benywod
Y fenyw wenieithus
Y Twyllwr hudawl
Darostyngiad a Derchafiad Crist
Buddugoliaethau yr Efengyl yn y Mil Blynyddoedd

II.  CILHAUL UCHAF.

[Darlun o fywyd amaethwr, a’i ofidiau, yn hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf.  Mae’n fyw ac yn werthfawr am ei fod yn wir.  Dyma’r bywyd gynhyrchodd oreu Cymru, a dyma’r bywyd hapusaf a iachaf yn y byd.]

John Careful, Cilhaul Uchaf.  Senn y Steward.  Gwobrwyon John Careful am wella ei dir,—I. Colli ei arian.  II. Codi ei rent.  III. Codi’r degwm.  IV. Codi’r trethi.  V. Rhoi cerdod i Peggy Slwt Slow nes y cai fynd ar y plwy.  VI. Rhoi benthyg arian i Billy Active i ymfudo.

Jacob Highmind.  Cario chwedlau i’r steward.  Notice to quit i John Careful.

Pryder y teulu; troi golwg tua’r Amerig.  Squire Speedwell yn ymyrryd.  Yr ysgwrs rhwng Lord Protection a John Careful.  Swn y bytheuaid.  Meistr tir a steward.  Ymadael o Gilhaul.

Yr Highminds yn denantiaid newyddion.  Mynd i’r dim.  Cilhaul ar law.  Y steward yn sylweddoli anhawsterau’r ffermwyr.  Hen wr Hafod Hwntw.  Gweld colled am ffermwyr gonest di-dderbyn wyneb.

III.  BYWYDAU DISTADL.

[Ysgrifennodd S.R. hanes rhai adwaenai, yn fyrr iawn, yn y Cronicl.  Distadl oeddynt, ac y mae swyn pennaf bywyd Cymru yn eu hanes dinod.  Nid oes le yn y gyfrol hon ond i ddau yn unig o’r llu, sef cardotes a gwas ffarm.]

Mary Williams, Garsiwn

Thomas Evans, Aber

Y Darlunìau.

Samuel Roberts
Darlun o’r Oriel Gymreig, dynnwyd gan y diweddar John Thomas.

Bwthyn ym Maldwyn
O’r Oriel Gymreig.

“Mewn hyfryd fan ar ael y bryn,
   Mi welwn fwthyn bychan;
A’i furiau yn galchedig wyn,
   Bob mymryn, mewn ac allan”

Pont Llanbrynmair
O’r Oriel Gymreig.

Dan Haul y Prydnawn
O’r Oriel Gymreig.
Darlun o dai yn Llanbrynmair dan dywyniad haul yr Hydref.

Cyflwynwyr Tysteb S. R.
O’r Oriel Gymreig.

Cyflwynwyd y dysteb yn Lerpwl yn union wedi dychweliad S. R. o’r America.  Eistedd Caledfryn yn y canol, a’i bwys ar ei ffon.  Ar ei law chwith eistedd S.R., a J. R. yn agosaf ato yntau.  Wrth gefn y ddau frawd saif y Gohebydd, eu nai, a chadwen ar ei fron.  Yn union y tu cefn i S. R., yn dalaf o bawb sydd ar eu traed, saif Mynyddog.

Ffrwd y Mynydd
O’r Oriel Gymreig.
Darlun o olygfa yn ucheldir Llanbrynmair.

My Lord
H. Williams.

Talu’r Rhent
H. Williams.

CANIADAU BYRION.

Bwthyn ym Maldwyn

Y TEULU DEDWYDD.

Wrth ddringo bryn ar fore teg,
   Wrth hedeg o’m golygon,
Gan syllu ar afonig hardd,
   A gardd, a dolydd gwyrddion;
Mewn hyfryd fan ar ael y bryn
   Mi welwn fwthyn bychan,
A’i furiau yn galchedig wyn
   Bob mymryn, mewn ac allan.

Canghennau tewfrig gwinwydd îr
   Addurnant fur y talcen,
A than y tô yn ddof a gwâr
   Y trydar y golomen;
O flaen y drws, o fewn yr ardd,
   Tardd lili a briallu;
Ac O mor hyfryd ar y ffridd
   Mae blodau’r dydd yn tyfu.

Wrth glawdd yr ardd, yn ngwyneb haul,
   Ac hyd y dail, mae’r gwenyn
Yn diwyd gasglu mêl bob awr
   I’w diliau cyn daw’r dryc-hin;
Ar bwys y ty, mewn diogel bant,
   Mae lle i’r plant i chwareu;
Ac yno’n fwyn, ar fin y nant,
   Y trefnant eu teganau.

O fewn y ty mae’r dodrefn oll,
   Heb goll, yn lân a threfnus;
A lle i eistedd wrth y tân
   Ar aelwyd lân gysurus;
Y Teulu Dedwydd yno sy
   Yn byw yn gu ac anwyl;
A phob un hefyd sydd o hyd
   Yn ddiwyd wrth ei orchwyl.

Ychwaith ni chlywir yn eu plith
   Neb byth yn trin na grwgnach,
Ond pawb yn gwneyd eu goraf i
   Felysu y gyfeillach;
Mae golwg iachus, liwus, lon,
   A thirion ar bob wyneb;
A than bob bron y gorffwys hedd,
   Tagnefedd, a sirioldeb.

Pan ddel yr hwyr, ac iddynt gwrdd,
   Oddeutu’r bwrdd eisteddant;
Ac am y bwyd, o hyd nes daw,
   Yn ddistaw y disgwyliant;
Pan ddyd y fam y bwyd gerbron
   Gwnant gyson geisio bendith;
Ac wedi ’n, pan eu porthi gânt,
   Diolchant yn ddiragrith.

Ar air y tad, â siriol wên,
   A’r mab i ddarllen pennod;
Ac yna oll, mewn pwysig fodd,
   Codant i adrodd adnod;
Yr emyn hwyrol yn y fan
   Roir allan gan yr i’angaf,
Ac unant oll i seinio mawl
   Cysonawl i’r Goruchaf.

Y tad a dd’wêd ddwys air mewn pryd
   Am bethau byd tragwyddol;
Y fam rydd ei Hamen, a’r plant
   Wrandawant yn ddifrifol;
Wrth orsedd gras, o flaen yr Ior,
   Y bychan gôr gydblygant;
A’u holl achosion, o bob rhyw,
   I ofal Duw gyflwynant.

Am ras a hedd, a nawdd y Nef,
   Y codant lef ddiffuant;
A Duw a ystyr yn gu-fwyn
   Eu cwyn a’u holl ddymuniant;
Ac O! na fedrwn adrodd fel
   Mae’r tawel Deulu Dedwydd,
Mewn gwylaidd barch, ond nid yn brudd,
   Yn cadw dydd yr Arglwydd.

Yn fore iawn, mewn nefol hwyl
   I gadw’r wyl cyfodant;
Ac wedi ceisio Duw a’i wedd,
   I’w dŷ mewn hedd cydgerddant;
Fe’u gwelir gyda’r fintai gu
   Sy’n cyrchu i’r addoliad;
Ac yn eu côr, ym mhabell Ion,
   Yn gyson ceir hwy’n wastad.

Ceir clywed mwynber leisiau’r plant
   Mewn moliant yn cyfodi,
A’u gweld yn ddifrif-ddwys o hyd,
   Ac astud, wrth addoli;
Ni wâg ymrodiant i un man
   I hepian na gloddesta;
Ond bydd eu calon gyda gwaith
   A chyfraith y Gorucha’.

Pob un, â’i Feibl yn ei law,
   I’r ysgol ddaw’n amserol;
Ac yn eu cylch fe’u ceir bob pryd
   Yn ddiwyd a defnyddiol;
Pan ddeuant adre’r nos yn nghyd
   I gyd, a’r drws yn nghauad,
Dechreuant ddweyd yn bwysig rydd
   Am waith y dydd, a’u profiad.

Mor fwyn eu cân! mor ddwys pob gair,
   Ac O mor daer eu gweddi!
A Duw yn siriol wenu ar
   Y duwiol hawddgar deulu;
Gwir nad oes ganddynt ddodrefn aur,
   Na disglaer lestri arian,
Na llawrlen ddrudfawr yn y tŷ,
   Na gwely-lenni sidan.

Ni feddant seigiau mawr eu rhin,
   Na melus win na moethau,
Na thuedd byth i flysio’n ffol
   Frenhinol arlwyadau;
Ond mae rhinweddol win a llaeth
   Yr iechydwriaeth ganddynt;
A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad
   A thirion Geidwad iddynt.

Fe’u ceidw’n ddiogel rhag pob braw,
   Ac yn Ei law fe’u harwain,
Nes dwyn pob un i ben ei daith
   Trwy hirfaith dir wylofain;
Pob un a gyrraedd yn ei dro
   Hyfrydawl fro paradwys;
Ac yno’n dawel berffaith rydd
   Y cânt dragwyddol orffwys.

MARWOLAETH Y CRISTION.

Gristion hawddgar!  Daeth yr adeg
   It’ ehedeg at dy Dad;
Gad dy lesgedd, hwylia’th edyn,
   Cyfod, cychwyn tua’th wlad;
Sych dy ddagrau, dechreu ganu,
   Darfu’th bechu, darfu’th boen;
Ti gei bellach dawel orffwys
   Ym mharadwys gyda’r Oen.

Er fod afon angau’n donnog,
   A llen niwlog dros y glyn,
Gwel dy Briod cu yn dyfod
   I’th gyfarfod y pryd hyn;
Dacw’r gelyn wrth ei gadwyn,
   Heb ei golyn, dan ei glwy’;
Dacw uffern wedi ’i maeddu:-
   Gristion! pam yr ofni mwy?

Yn y dyffryn, er mor dywyll,
   Gwelaf ganwyll ddisglaer draw,
Wedi ’i chynneu i’th oleuo,
   Rhag it’ lithro ar un law;
Mae dy Iesu wedi blaenu,
   Wedi torri grym y donn;
Pam yr ofni groesi’r dyffryn?
   Pam mae dychryn dan dy fron?

Eilia’th gân, mae’r nos yn cilio,
   Gwel, mae gwawl yn hulio’r glyn:
Edrych trwy y niwlen deneu,
   Gwel drigfannau Seion fryn:
Gwel, mae hyfryd wên dragwyddol,
   Heulwen nefol ar y wlad;
Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol
   Yw brenhinol lys dy Dad.

Gwel y dirif seirian berlau
   Wisgant furiau’r nefol gaer;
Gwel ei huchel byrth disgleirdeg,
   A’i llydain dêg heolydd aur;
Gwel yr afon bur redegog,
   Gwel y deiliog ffrwythlawn bren;
Gwel y llwybrau a’r trigfannau
   Sydd i’r seintiau uwch y nen.

Gwel y dedwydd brynedigion
   Yn eu gynau gwynion draw,
Wedi gwisgo eu coronau,
   A’u telynau yn eu llaw;
Yuo’n gorffwys, gyda’u gilydd,
   Mewn llawenydd pur dilyth,
Heb na loes, na chroes, na phechod,
   Mwyach i’w cyfarfod byth.

Gwel y gosgordd-lu yn cychwyn
   I’th ymofyn idd eu mysg;
Gwel dy Brynwr, mewn gwên siriol,
   Yn ei hardd gyfryngol wisg;
Clyw, mae’r clychau oll yn canu,
   I’th groesawu tua thref;
Clyw bereiddlawn seingar donau
   Aur delynau côr y nef.

Gwel dy gerbyd wrth yr afon,
   Gwel dy goron,—gad dy gledd;
Cymer bellach dawel feddiant
   O ogoniant gwlad yr hedd,
Ffarwel iti, collaf bellach
   Dy gyfeillach a dy wedd,
Hyd nes cawn gyfarfod eto
   Yn y fro tu draw i’r bedd.

Y LILI GWYWEDIG.

Galar-gân Mam ar Farwolaeth Maban Mynwesol.

Caed Lili têg, mewn hyfryd fan,
   Ar gorsen wan yn tyfu;
Ei hawddgar liw, a’i gywrain lun,
   Wnai i bob un ei garu;
Ei berchen o anwyldeb âi,
   A siriol syllai arno,
Mewn gobaith hoff o’i gadw’n îr
   Am dymor hir heb wywo.

Ond ar ddiwrnod tywyll du,
   Y gobaith cu ddiflannodd;
Daeth awel oer ’nol heulwen haf,
   A’r Lili braf a wywodd;
Mae’n awr yn gorwedd yn y llwch,
   Heb degwch yn wywedig;
A’i berchen deimla dan ei bron
   Ei chalon yn glwyfedig.

Ochenaid ddwys o’i mynwes wan,
   Ac egwan lef sy’n codi,—
“A raid im’ golli’r olwg ar
   Fy hawddgar wiwber Lili?
Flodeuyn hardd! dy golli raid,
   Er dibaid dywallt dagrau;
Llwyr ddiflanedig ’nawr yw drych
   Dy unwaith harddwych liwiau.

“Dy addurnedig wisgoedd braf,
   Eu gweled ni chaf mwyach;
Wrth syllu ar dy le, nid wyf
   Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach.”
Ar hyn, pan ydoedd natur wan
   O dan y groes yn suddo,
I arllwys balm i’r galon brudd
   Daeth gwiw Ddiddanydd heibio.

Yn dirion (nid i beri braw)
   Ei ddeheu-law estynnai;
Cyd-deimlo wnai wrth wrando’i chŵyn,
   Ac mewn iaith fwyn dywedai,
“Na wyla mwy,—dy Lili hardd
   Sy’n awr yng ngardd paradwys,
Mewn tawel gynnes nefol fro
   Yn ail-flodeuo’n wiwlwys.

“Ei nôdd, ei ddail, ei arogl pêr,
   Ei liwiau têr a hawddgar,
Rhagorach fyrdd o weithiau ynt
   Nag oeddynt ar y ddaear.
Ei weled gei ar fyr o dro
   Yn gwisgo harddwch nefol:
I’r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf,
   Lle t’wyna haf tragwyddol.”

CAN Y NEFOEDD.

Fy enaid blinedig! cwyd d’edyn yn awr,
Ehed trwy’r wybrennau uwch gofid y llawr,
I glywed nefolion yn seinio’r trwy’r nen
Fawl ganiad i’r Iesu, dy Briod a’th Ben.

Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd,
Mor ddisglaer Ei goron, mor siriol Ei wedd;
Aur-seren awdurdod sy’n awr ar y fron
Fu gynt yn llif-waedu o glwy’r waew-ffon.

Angylaidd gantorion gydunant mewn cân
A seintiau fil miloedd, a’u gwisgoedd yn lân;
A broydd a bryniau tragwyddol y nef
Trwy’r dedwydd ororau adseiniant eu llef.

Y llu archangylaidd ddechreuant y gainc,
Gan barchus gydblygu o amgylch Ei fainc:
Y saint a’u coronau wnant balmant i’w draed,
Gan felus gydganu am rinwedd ei waed.

Pan daniodd Ei fynwes, pan gododd mewn brys,
Gan adael Ei orsedd, a’i goron, a’i lys,
A hedeg heb oedi o fynwes Ei Dad,
Ar edyn trugaredd, at ddyn yn Ei waed;

Pan welwyd E’n Faban mewn gwael egwan gnawd,
Etifedd y nefoedd o’i wirfodd yn dlawd,
Angylion a seintiau a floeddient yng nghyd,
“Gogoniant trwy’r nefoedd, Tangnefedd trwy’r byd.”

Pan rodiai o amgylch, gan wneuthur lleshad
I gloffion, a deillion, a chleifion yn rhad,
Gan alw’r blinderog, yn serchog a llon,
I orffwys yn dawel eu pwys ar Ei fron,—

Pan godai yn erbyn pyrth uffern Ei gledd,
Gan siglo sylfeini hen garchar y bedd,—
Dyrchafu yn hyfryd bêr-seiniawl wnai’r gân,
A bywiol orfoledd wnai’r nefoedd yn dân.

Ond sydyn!—pan ydoedd pob telyn mewn hwyl,
A’r udgyrn yn seinio fel ar uchel wyl,—
Wrth daro’r nôd uchaf cydsyniai’r dorf hardd
Ei weled E’n chwysu mewn ing yn yr ardd.

Pan welwyd E’n gwaedu dan hoelion ar bren,
Pan wanwyd Ei fynwes, pan glwyfwyd Ei ben,
Pan yfodd E’r cwpan, pan gollodd fwynhad
Diddanol gysuron gwedd wyneb Ei Dad;

Pan gododd Cyfiawnder i’w erbyn Ei gledd,
Pan welwyd E’n gorwedd yng ngharchar y bedd,
Dyrysodd telynau cantorion y nef,
Ymlaesodd pob aden, distawodd pob llef.

Ar unwaith ymdaenodd tywyllwch fel llen
Dros harddwych drigfauau dedwyddawl y nen;
Cydwywodd y blodau, dadhwyliodd pob tant,
Llesgaodd pob seraff—pob angel—pob sant.

Ond bore’r adgodiad, ar doriad y dydd,
Pan neidiodd y Cadarn o’i gadwyn yn rhydd,
Gan ymdaith o Edom yn amlder ei rym,
Mewn harddwisg borfforaidd, a’i gleddyf yn llym;

Pan gododd hardd-faner trugaredd a hedd,
Ac yn Ei law waedlyd agoriad y bedd,
Gan floeddio’n fuddugol, “Enillais y dydd—
“Gorchfygais bob gelyn—daw’r caethion yn rhydd,”—

Mil myrdd o gantorion, yn gydsain eu llef,
Ail-seinient yr Anthem, hwyl lawen trwy’r nef;
Gan floeddio caniadau, mewn tonau mor bêr,
Nes siglo y bydoedd gan adsain y ser.

Angylaidd osgorddion ehedent mewn brys
I dywys eu Brenin i orsedd Ei lys;
Ar balmant o berlau olwynai i’r nen,
A’r seirian byrth oesawl ddyrchafent eu pen.

’Nol disgyn o’i gerbyd, ac esgyn Ei sedd,
Ei euraidd deyrnwialen estynnai mewn hedd,
Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad,
Ac anfon i ddynion Ei roddion yn rhad.

Rho heibio ’nawr, f’awen, cyn gorffen dy gân,
Rhag boddi ar unwaith mewn syndod yn lân;
Nid da cynnyg nofio—’rwyt eto’n rhy wan—
Mewn môr o ryfeddod, heb waelod na glan.

I erfyn maddeuant, plyg ’nawr wrth Ei draed,
Ymorffwys am fywyd ar rinwedd Ei waed;
Cei ddianc ar fyrder o’th garchar o gnawd,
I orffwys ym mynwes dy fwyn hynaf Frawd.

Ei wyneb cu hardd-deg gei weled heb len;
Ac yna, dan ganu, coroni Ei ben;
Pan welir y ddaear yn wenfflam o dân,
Mawr fydd dy orfoledd, a melus dy gân.

AR FARWOLAETH MABAN.

Daeth yma i’r byd i weld ein gwae,
   Lle mae gorthrymder garw;
Ond trodd ei egwein lygaid draw,
   Gan godi ’i law a marw.

Er dod am dro i’n daear ni
   I brofi’r cwpan chwerw;
Ni fynnai aros is y nen,
   Trodd draw ei ben i farw.

Dros ennyd ferr fe rodd ei glust
   I wrando’n trist riddfannau;
Ond buan, buan, blino wnaeth,
   A hedodd ymaith adre’.

Ni chawn ei weled yma mwy
   Dan unrhyw glwy’n galaru;
Mae wrth ei fodd ar Seion fryn,
   A’i dannau’n dynn yn canu,

Ni welir deigryn ar ei rudd,
   Na’i wedd yn brudd wylofus;
Ni chlywir mwy o’i enau ef
   Un egwan lef gwynfannus.

Ni chaiff y fam byth, mae’n ddilys,
   Waith sychu ’i chwys a’i ddagrau,
Na chwaith ei gynnal, pan yn wan,
   I gwynfan yn ei breichiau.

Ni rydd un gelyn iddo glwy,
   Nis gellir mwy ei faglu;
Ni welir ef yn dewis rhan
   Gyda’r annuwiol deulu.

Ni chaiff y tad na’r fam byth mwy
   Boen trwy ei weld yn pechu:
Nid ofnant iddo yn ei oes
   Ddwyn croes ar achos Iesu.

Fe darddodd ffynnon ar y bryn
   I’w gannu’n wyn, a chymhwys
I lanw lle yn mhlith y llu
   Sy’n canu ym mharadwys.

Diangodd draw i wlad yr hedd
   O gyrraedd pob rhyw ddrygfyd,
Ac uno wnaeth â’r nefol lu
   I ganu fry mewn gwynfyd.

Mewn teulu duwiol yn y byd,
   Tra hyfryd y gyfeillach;
Ond fry ymhlith y nefol hil
   Y bydd yn fil melusach.

Heb unrhyw boen o dan y fron,
   Mae ’nawr yn llon a dedwydd:
A’r pur orfoledd yno sy
   A bery yn dragywydd.

Er rhoi ei gorff yng ngwaelod bedd
   I orwedd a malurio,
Daw bore hyfryd yn y man
   Y cwyd i’r lan oddiyno.

Cawn gydgyfarfod fry mewn hedd,
   Tudraw i’r bedd yn dawel;
Ac uno i ganu yn ddilyth,
   Heb achos byth ymadael.

Y CRISTION YN HWYLIO I FÔR GWYNFYD.

Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw,
Yn troi yn dra medrus ei lyw â’i ddeheulaw,
Gan ganu wrth ledu ei hwyliau claerwynion
I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,—
Mae’r Cristion yn gadael anialdir marwoldeb,
Gan hwylio yn dawel i fôr bythol burdeb.
Pan ddel y gorchymyn mae’n lledu ei hwyliau,
Heb ofni’r Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau;
Gan wenu heb ddychryn, wrth gychwyn, mae’n canu,—
“O’m golwg yn gyflym mae’r byd yn diflannu,
Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau,
Tawelu mae’r gwyntoedd, llonyddu mae’r tonnau,
Mae’r heulwen yn gwenu, a’r wybren yn siriol,
Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol.”

CWYN A CHYSUR HENAINT.

Ymgiliodd y gaeaf, mae’r gwanwyn yn gwenu,
Mae’r oenig yn neidio, a’r durtur yn canu;
Mae’r coedydd, a’r dolydd, a’r gerddi’n blodeuo;
A minnau gan nychdod a henaint yn gwywo. 
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Mae’r i’enctid o’m hamgylch yn heinyf a chryfion,
Yn wridog eu gruddiau, yn llawen eu calon,
Yn siriol gydrodio’n finteioedd diddanus,
A minnau fy hunan yn llesg a methiannus. 
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Bu amser, ’rwy’n cofio, pan gynt ’roeddwn innau
Mor heinyf, a bywiog, a gwridog a hwythau,
A’m dwyfron yn llawen, a’m cân yn soniarus;
Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus. 
   Mae f’einoes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd,
O gyrraedd marwoldeb, i dawel fro gwynfyd;
A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan.
Mae’m calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan. 
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynnu,
A’r heinyf wyr cryfion yn awr yn cydgrymu;
Swn isel, wrth falu, wna’r felin fethedig,
Ychydig yw’r meini, ac oll yn sigledig. 
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd,
A llydain byrth mwyniant gan henaint a gauwyd;
Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn,
A baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn.
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir,
A phopeth, wrth araf ymlwybro, a ofn;
Mae chwant wedi pallu, ’does dim rydd ddiddanwch,
Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch.
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Y cawg aur a’r piser yn fuan a ddryllir,
Y llinyn ariannaidd a’r olwyn a dorrir;
Ychydig sy’n aros o flodau’r pren almon;
Dadfeilio mae’r babell, llewygu mae’r galon.
   Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod,
   Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddnod.

Hosanna!—’Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod,
Mae’n addfed o’r diwedd i fyned i’w feddrod;
Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn dawel,
Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel. 
   Ac yna, heb lygredd, caiff godi’n dra siriol,
   I ddedwydd deyrnasu mewn i’enctid tragwyddol.

Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant,
Caf esgyn i dawel ororau gogoniant,
I dderbyn y palmwydd, y delyn, a’r goron,
A chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion;
   Ac yna caf brofi’r gymdeithas a’r gwleddoedd
   Sy’n bythol goroni dedwyddwch y nefoedd.

“MAE NHAD WRTH Y LLYW.”

Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,
’Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer;
A rhuad y tonnau, a’r gwyntoedd, a’r gwlaw,
A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.

Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon,
A dd’wedai dan wenu, heb ddychryn i’w fron,—
“Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw:
Pa raid ini ofni?—Mae Nhad wrth y Llyw.”

O blentyn y nefoedd!  Paham mae dy fron
Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y donn?
Mae’r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw;
Ond diogel yw’th fywyd—Mae’th Dad wrth y Llyw.

Daw’n fuan orfoledd diddiwedd i’th ran;
Draw’n disgwyl mae’th geraint oddeutu y lan:
Y disglaer lys acw, dy hoff gartref yw;
Mae Canan yn ymyl, a’th Dad wrth y Llyw.

Cwyd bellach dy hwyliau, mae’r awel o’th du,
’Rwyt bron mynd i fynwes dy fwyn Brynwr cu;
Mae’th angor yn ddiogel, a’th Gadben yn fyw,
Mae’th gwch yn y porthladd, a’th Dad wrth y Llyw.

Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.

Pont Llanbrynmair

Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,
   Unwaith wrth westy bychan,
Pan oedd gwên oleu’r heulwen glaer
   Yn euro caer y dreflan.

Wrth weled pawb o’m cylch â’u bryd
   Ar dawel gydnoswylio,
Aethum i gladdfa oedd gerllaw
   I ddistaw ddwys fyfyrio.

Dan briddell lâs, y tlawd yn llon
   Ro’i hun i’w fron glwyfedig;
Ond meini cerf o farmor trwch
   A guddient lwch pendefig.

Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
   Dau blentyn oedd yn wylo,
Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
   Lle’r oedd eu mam yn hunc.

Er fod y ddau mewn newyn mawr,
   Ar lawr ’roedd darn o fara;
Edrychent arno weithiau’n syn,
   Er hyn ni wnaent ei fwyta.

“Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
   Pam ’rych chwi mewn cyfyngder,
Ac yn gwastraffu’r bwyd eich dau,
   A chwithau mewn fath brinder?”

Atebai’r bach, mewn gwylaidd dôn,
   A’i heilltion ddagrau’n llifo,—
“Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
   Heb ddim i’w ofer-dreulio.

“Troi’n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
   ‘Rwy’n daer am iddi fwyta;
Ni chafodd damaid heddyw’n wir,
   A dir, hi bia’r bara.”

“Nis bwytaf mwy,” atebai hi,
   “Nes bwyto Henri dipyn;
Mi gefais i beth bara ddoe,
   Ond echdoe cadd ef fymryn.”

Ar hyn fe deimlwn dan fy mron
   Y galon lesg yn gwaedu;
Eisteddais rhyngddynt ar y bedd
   I geisio’u hymgeleddu.

Yn dirion gwesgais ddwylaw’r ddau,
   Oedd fel y clai gan oerder;
A’r bachgen llwydaidd ataf drodd,
   I adrodd eu cyfyngder.

“Ein ty oedd wrth y dderwen draw,
   Gerllaw y dolydd gwyrddion,
Lle’r oeddym gynt yn chwareu o hyd
   Yn hyfryd a chariadlon.

“Un tro, pan oeddym oll yn llon,
   Daeth dynion creulon heibio,
I fynd â’n tad i’r môr i ffwrdd;
   Ni chawn mwy gwrdd mohono.

“Ni wnaeth ein mam, byth ar ol hyn,
   Ond wylo’n syn a chwynfan,
Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd,
   Yr â’r i’r bedd yn fuan.

“Un hwyr, pan ar ei gwely’n wan,
   A’i hegwan lais crynedig
Galwodd ni’n dau, mewn tyner fodd,
   A d’wedodd yn garedig,—

“‘Fy anwyl blant!  Na wylwch chwi,
   Gwnewch dyner garu’ch gilydd:
Dichon daw’ch tad yn ol yn glau,
   I’ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.

“‘Ond os na ddychwel byth eich tad,
   Cewch Dduw yn Geidwad tyner;
Mae Ef i bob amddifad tlawd
   Yn Dad a Brawd bob amser.’

“Yna, ar ol ymdrechu’n gu
   I sychu’n dagrau chwerw,
Cusanodd ni, wrth droi ’i phen draw,
   Gan godi ’i llaw a marw.

“Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy
   I’n harwain trwy ofidiau;
Ac ofni’r ym, mewn dirfawr fraw,
   Na ddaw ein tad byth adre’,

“Er wylo yma lawer dydd
   Mewn hiraeth prudd am dano,
Ac edrych draw a welem neb
   Yn dod—yn debyg iddo;

“Er clywed fod y môr yn mhell,
   Tybiem mai gwell oedd myned,—
Os gallem gyrraedd yno’n dau,
   Y caem yn glau ei weled.

“Dan wylo aethom, law yn llaw,
   Trwy wynt a gwlaw a lludded,
Gan droi yn wylaidd i bob ty
   I holi’r ffordd wrth fyned.

“Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi,
   Heb roi i ni ddim cymorth;
Och’neidiai’r lleill wrth wrando’n cwyn,
   Gan roddi’n fwyn in ymborth.

“Ond erbyn gweld y môr mawr draw,
   Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;
Ac ofni’r ydym fod ein tad
   Anwylfad wedi boddi.

“Ar fedd ein mam ’r ym ’nawr o hyd,
   Mewn ing a gofid chwerw,
A hiraeth dwys am fod ein dau,
   Fel hithau, wedi marw.

“A wyddoch chwi ddim p’le mae’n byw
   Y Duw sy’n Dad amddifaid?
Pe gallem ni ryw fodd Ei gael,
   Mac Ef yn hael wrth weiniaid.

“Dywedodd mam mai yn y nef
   Yr ydoedd Ef yn trigo:-
A d’wedodd llawer wrthym ni,
   Heb os, ei bod hi yno.

 “Ac os yw mam ’nawr yno’n byw,
   Hi dd’wed wrth Dduw am danom;
A disgwyl ’r ym y llwydda hi
   Cyn hir i’w yrru atom.”

Gwnaeth hyn im’ hoff gofleidio’r ddau,
   A sychu ’u gruddiau llwydion,
A dweyd,—“Fel mam, gofalaf fi
   I’ch ymgeleddu’n dirion.

“Na wylwch mwy!  Dewch gyda mi,
   Rhof ichwi fwyd a dillad,
A dysg, a thŷ, a modd i fyw,
   A chewch Dduw’n Dad a Cheidwad.

“Efe yn fwyn a’m gyrrodd i
   I ddweyd i chwi Ei ’wyllys:
A diwedd pawb a’i carant Ef,
   Yw mynd i’r nef i orffwys.”

CYFARCHIAD AR WYL PRIODAS.

Tangnefedd a ffyniant, diddanwch a chariad,
Fo rhwymyn a choren eich undeb anwylfad;
Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth,
A’ch epil fo’n enwog dros lawer cenhedlaeth.
Disgleiried eich rhinwedd.  A gwneled yr Arglwydd
Eich cylchoedd yn fendith, a’ch ceraint yn dedwydd:
Estynned eich dyddiau i fod yn ddefnyddiol;
Ei eglwys fo’ch cartref, Ei air fyddo’ch rheol.
A rhodded Ei Ysbryd diddanol i’ch tywys
Trwy dd’rysni yr anial i’w nefol baradwys.

DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB.

[Cyf. o “The Destruction of Sennacherib” Byron].

O Fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd,
Ymdorrai i’r gorlan er difa y praidd;
A’i lengoedd mewn gwisgoedd o borffor ac aur,
Wrth hulio glyn Salem, a’i lliwient yn glaer.

Eu harfau o hirbell a welid o’r bron
Fel llewyrch ser fyrddiwn ar frig y werdd donn;
A thrwst eu cerddediad a glywid o draw,
Fel rhuad taranau trwy’r wybren gerllaw.

Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul,
A welid fel coedwig dan flodau a dail;
Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr,
Fel deiliach gwywedig, a hulient y llawr.

Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa,
Gan danllyd anadlu i’w gwersyll ei bla,
Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd,
Mor oer ac mor farw a delw o bridd.

Y ffrom farch ddymchwelwyd.—Yn llydan ei ffroen,
Mae’n gorwedd heb chwythu mwy falchder ei hoen,
A’i ffun oer o’i amgylch fel tywyrch o waed:
Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed.

Ar oer-lawr mae’r marchog, a’r gwlith ar ei farf,
A’r llaid ar ei harddwisg, a’r rhwd ar ei arf:
Nid oes trwy y gwersyll na thinc picell fain,
Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain.
Mae crochwaedd trwy Assur, daeth amser ei thâl,
Mae’r delwau yn ddarnau trwy holl demlau Baal:
Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd,
Wrth olwg yr Arglwydd, ymdoddai i’r bedd.

GWEDDI PLENTYN.

Ni cheisiaf aur, na bri, na nerth,
   Na diwerth fwyniant bydol:
Fy enaid gais ragorach rhan
   Na seirian rwysg brenhinol.

Nid moethau o ddanteithiol rin,
   Na gloew win puredig,
Nac yd, na mêl, nac olew per,
   Na brasder lloi pasgedig.

Nid plethiad gwallt, na thegwch pryd,
   Na gwisg i gyd o sidan,
Nac eang lys, a’i addurn claer
   O berlau, aur, neu arian.

Ond dwyfol werthfawrocach rodd,
   Mewn taerfodd, wy’n ei cheisio:
Ac O fy Nuw! erglyw fy nghri,
   A dyro imi honno.

Fel arwydd hoff o’th gariad hael,
   Rho imi gael Doethineb:
Nid oes ond hon a ddwg i’m rhan
   Ddedwyddawl anfarwoldeb.

Dysg fi yn nechre f’einioes frau
   I rodio llwybrau’r bywyd;
A chadw’th air,—trwy fyw yn ol
   Ei nefol gyfarwyddyd.

Fel ufudd blentyn, boed i mi
   Byth wneyd dy dŷ yn gartre,
Fel caffwyf brofiad melus iawn
   O’i radlawn arlwyadau.

Na ad im’ ffol ymlygru byth,
   Trwy fynd i blith rhagrithwyr;
Na rhedeg chwaith o lwybrau’r ne’,
   I eiste’n lle’r gwatwarwyr.

Dy santaidd waith a’th achos di
   A fo mi’n hyfrydwch;
A gwiw gymdeithas D’ anwyl blant
   Fy mwyniant a’m dyddanwch.

Os caf gysuron ar fy nhaith,
   Fy melus waith fydd moli:
Fy noniau oll, o galon rwydd,
   I’m Harglwydd gânt eu rhoddi.

Ond os caf gystudd drwy fy oes,
   A dwyn fy nghroes mewn galar,
Heb ddim ond gofid ar bob cam,
   Gwna fi yn amyneddgar.

Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf
   Yn nechreu haf fy mywyd;
Cymhwysa f’enaid, drwy Dy ras,
   I deyrnas bythol wynfyd.

Os hir fy nhaith, rho im’ Dy hedd,
   Nes mynd i’r bedd i orffwys;
Ac yna seiniaf gyda’th blant
   Dy foliant ym mharadwys.

CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU.

Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad,
’Rwy’n cofio hoff gartref fy mam a fy nhad,
Y babell, a’r goedwig, yr afon, a’r ddôl;
Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ol.

Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt,
Heb ofid, nac angen, yn llawen fy hynt;
A’m plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu,
Heb neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi.

Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron,
A’r lleill wrth fy ymyl yn cysgi yn llon;
Disgwyliwn fy mhriod, gan sio’n ddi-fraw,
Heb feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw.

Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr,
Ar unwaith ymdoddai fy nghalon fel cwyr,—
Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o’r môr,
Gan guro fy mwthyn nes torri y ddor.

Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd, mam na thad,
I achub y gweiniaid crynedig rhag brad,
Fe’n llusgwyd, fe’n gwthiwyd, er taered ein cri,
I ddû-gell y gaeth-long at gannoedd fel ni.

Wrth riddfan i gyfrif munudau’r nos hir,
A threiglo’n ddiorffwys fy mhen gan ei gur,
Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd,
Yn oer ac yn farw—o’i boenau yn rhydd.

Hoff faban fy mynwes!  I’r dyfrllyd oer fedd,
Er gwaetha’r gormeswr, diangaist mewn hedd:
Cei orffwys yn dawel, ni’th werthir byth mwy,
Ac ni rydd y fflangell na’r gadwyn it’ glwy,

Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth;
Ond eto mae’th gu-fam anwylaf yn gaeth;
Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon,
A’i sio i orffwys yn mynwes y donn?

Ar ol garw fordaith, a chyrraedd y lan,
A’n didol, a’n gwerthu i fynd i bob man;
Y brawd bach a rwygid o fynwes ei chwaer,
Er mynych lesmeirio wrth lefain yn daer.

Y wraig, wrth ymadael, gusanai ei gŵr,
A’i llygaid toddedig yn boddi mewn dŵr:
A’r lesg fam a wasgai ei dwyfron—o chwant
Cael myned i orwedd i’r un bedd a’i phlant.

Hoff geraint ysgarwyd, er cryfed eu bryd
Am weithio, dioddef, a marw ynghyd;
Y clymau anwylaf a dorrwyd bob un,
A rhwygwyd llinynau y galon ei hun.

I greulawn ormeswr fy ngwerthu a wnaed,
I gael fy fflangellu o’m dwyfron i’m traed;
Mae’m llafur yn galed, a minnau yn wan,
Heb ddefnyn o gysur i’w gael o un man.

Mae’r bwyd roddir imi yn brin ac yn ddrwg,
Mae’r haul yn fy llosgi, mae popeth mewn gwg:
Dan oer wlith y ddu-nos rhaid cysgu, heb len;
O’r braidd y caf garreg i gynnal fy mhen.

Mewn ing rhaid im’ farw, nis gallaf fyw’n hwy,
Mae’r holl gorff yn glwyfus, a’r galon yn ddwy;
O na chawswn drengu yn mynwes fy ngwlad,
Fy mhlant a fy mhriod, fy mam a fy nhad.

Wrth farw, fy ngweddi daer olaf a fydd,
I’r caeth o’i gadwynau gael myned yn rhydd:
Pa Gristion, heb deimlo ei galon mewn aeth,
All gofio du lafur ei frodyr sy’n gaeth?

O Brydain brydweddol!  “Arglwyddes y donn,”
Na âd i un gaeth-long ymrwygo drwy hon;
Cwyd Faner wen Rhyddid, nes gwawrio y dydd
I’r olaf gael dianc o’i gadwyn yn rhydd.

Y CREULONDEB O FFLANGELLU BENYWOD.

A ysgrifenwyd wrth ddarllen penderfyniad barbaraidd blaenoriaid dideimlad planfeydd Jamaica, i ddinoethi a fflangellu gwyryfon a gwragedd.

Pe bae gennyt deimlad, pe byddi tyn Gristion,
Fe wridai dy wyneb, fe waedai dy galon,
Weld menyw brydweddol wrth gadwyn yn crynnu,
Dan fflangell anifail yn griddfan a gwaedu;
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Dwys glwyfir, bob ergyd, ei chorff teg tyneraidd,
Ond dyfnach y clwyfir ei gwylder benywaidd;
Heblaw ei harcholli o’r ddaear i’r ddwyfron,
Mae’r fflangell mewn ail fodd yn cyrraedd ei chalon;
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Pan oeddit yn faban hi’th wasgai i’w mynwes,
A breichiau o’th amgylch, hi’th gadwai yn gynnes;
Rho’i gusan, dan wenu, i’th gadw’n ddiddanus,
Ac ar ei bron dyner hi’th siai i orffwys:
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Trywenid ei mynwes gan ingawl ddwys alaeth,
A gwewyr dirboenus, cyn dyfod yn famaeth:
A chreulawn ei gwasgu mewn cyfyng amgylchiad,
Sy’n gofyn ymgeledd, tynerwch, a chariad;
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Dyngarwch a rhinwedd ymgiliant i wylo,
A chrefydd, o hirbell, saif draw dan och’neidio,—
Gweld gwaedlyd archollion y fflangell gylymog
Yn gwysau plethedig dan ddwyfron y feichiog;
   O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau;
   Tafl ymaith y fflangell, a diyllia’i chadwynau.

Mae Llywydd y bydoedd yn gweled ei chlwyfau,
Mae’n clywed ei chwynion, mae’n cyfrif ei dagrau,
Mae’n codi i ddial—clyw’r daran yn rhuo—
Mae’n gwisgo ei gleddyf, mae bron mynd i daro:
   O cryned dy galon! ymostwng mewn dychryn,
   Tafl ymaith y fflangell, a dryllia y gadwyn.

Y FENYW WENIEITHUS.

Ar wyll y nos, dan dywyll lenni’r hwyr,
Pan guddid gwên yr haul dan orchudd llwyr,
Yn nrws ei thy, yn denawl wenu’n llon,
Mewn esmwyth wisg, a dichell dan ei bron,
Y fenyw dêg wenieithus welaf draw,
Yn gwamal droi ei llygaid ar bob llaw,
Nes canfod llanc mwyn hardd-dêg, ond heb bwyll
Na deall da i ochel hudawl dwyll.

Gan ddal ei law, hi a’i cusanodd ef,
Ac mewn iaith ystwyth, gyda dengar lef,
Dywedai’n hyf,—“Roedd im’ aberthau hedd,
Ond cedwais wyl, a gwnaethum heddyw wledd:
Yr hen adduned ddwys, cywirais hi,
A brysiais heno’n llon i’th gyfarch di:
Fy ngwely drwsiais â cherfiadau gwych,
Ac â sidanaidd lenni têg eu drych;
Mwg-derthais ef âg enaint peraidd iawn,
O aloes, myrr, a sinamon, mae’n llawn.
Tyrd gyda mi,—ni chawn byth gyfle gwell
I garu’n gu,—mae’r gŵr yn awr ymhell:
O arian cymerth godaid yn ei law,
Ac ar y dydd amodol adref daw.
Mae dyfroedd cêl fel gwin i’r galon brudd,
Cawn hyfryd wledd o beraidd fara cudd.”

A’i geiriau teg, ei droi a’i ddenu wnaeth,
Nes cael i’w rhwyd ei galon ffol yn gaeth;
Fel ych yn fud i’r lladdfa aeth yn glau,
Neu fel yr ynfyd cyn i’r cyffion gau:
Heb gofio gwg na llygad craff yr Ior,
Canlynodd hi, gan ddistaw gau y ddôr.

Ymysg ei fwyn hoff gu gyfoedion llon,
Lle rhodiai gynt heb ofid dan ei fron,
Nac yn ei dŷ, ni welwyd mono mwy;
Ei geraint oll, mewn galar gwelid hwy.
Ei dad, mewn dagrau, ro’i ei ben dan gudd,
A’i fam, wrth riddfan, rwygai ‘i mynwes brudd.

Wrth wrando llais y fenyw ddengar ddrwg,
Cynhyrfir Ior y nef i wisgo gwg;
Porth uffern yw ei haddurnedig dŷ,
A’i ffordd i gell oer angau’n arwain sy;
Gweu maglau mae i ddal eneidiau’n gaeth
Yn nyfnder gwae, i oddef bythol aeth;
Os yno’r a, nid oes i’r adyn ffol
Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol.

Y TWYLLWR HUDAWL.

Mewn hyfryd le o gyrraedd swn y byd,
Y trigai’n llon forwynig deg ei phryd;
Hoff unig ferch ei dedwydd fam a’i thad,
Heb dan ei bron na briw na thwyll na brad.

Pan, gyda’r wawr, y pigai’n llon o blith
Pêi-lysiau’r maes a dagrau’r bore wlith,
Y rhosyn coch a’r lili, teg eu drych,
I fritho’n hardd ei swp o flodau gwych,
A phan adseiniai lais yr eos fwyn,
Gan heinif ddawnsio’r gân o dwyn i dwyn,—
O’r braidd, er craffu, gall’sid dweyd ar g’oedd,
Pa un ai dynes ai angyles oedd.

Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd,
A buan ffôdd y gân o’i mynwes brudd.
Un hwyr, gan wisgo gwên, rhyw dwyllwr ddaeth
I geisio ’i dal mewn hudawl serch yn gaeth.
Wrth weld ei wên, ei chalon dyner wan,
Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan:
A’r gelyn cas, ’nol ei handwyo hi,
Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri.

Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth,
A’i galon falch fel darn o garreg aeth;
Dan erchyll reg—gan droi ei wyneb draw—
Ei gwthio wnaeth o’i dŷ i’r gwynt a’r gwlaw;
A chloi ei ddrws, gan greulawn dyngu’n ffol,
Na chai hi byth ddychwelyd yno’n ol.

Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer,
Ei baban gaed yn farw ac yn oer;
A’i ddagrau’n iâ tryloew ar ei rudd,
A’i ddwylaw bychain rewent wrth y pridd.

Y fam, yn awr o’i phwyll, yn llwyd a gwan,
A grwydrai’r dydd yn brudd o fan i fan;
A’r nos, mewn lludded dost, eisteddai’n syn
Dan gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn:
Ing ar ol ing drywanai ’i mynwes brudd,
Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd.

Yn glaf neu iach, âi allan ar bob hin,
Ac yn ei llaw y cariai gorsen grin,
Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,—
Fy chwaer yw hon, a daw i wylio’m bedd.”
Ni soniai byth am gâr, na mam, na thad,
Na’i hudwr cas, nac am ei baban mad;
Ymddiddan wnai, bob dydd, â’r gorsen grin,
Heb deimlo dwys effeithiau ’i chystudd blin.
Nes marw dan oer wlith y niwlogf nen,
Heb frawd na chwaer i gynnal pwys ei phen.
O’i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed,
Gan Ysbryd Duw, drwy rin y dwyfol waed;
A’i henaid ffodd o’r maglau oll yn rhydd,
Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd.

Ond wrth gyfleu ei chorff i’w wely pridd,
Ei thad, dan guro’i fron, felldig ai’r dydd
Y gwelodd hi o’i dŷ yn gorfod ffoi,
Mewn cyflwr gwan, heb wybod p’le i droi:
A’i hudwr tlawd a welai, er ei fraw,
Ddialydd llym â’i gleddyf yn ei law;
A’i Farnwr dig ar ddisglaer orsedd lân,
A’i wae’n seliedig mewn llyth’renau tân.

DAROSTYNGIAD A DERCHAFIAD CRIST.

I Gu Geidwad gwael bechadur,
   Gyda gwylder, seiniwn gân;
Ac enynner yn ein mynwes
   Fywiol fflam o nefol dân:
Canwn am Ei ddarostyngiad,
   Am Ei gur a’i gariad Ef,
Gan adseinio tonau mwynion
   Telynorion llys y nef.

Wrth weld adyn diymgeledd,
   Tlawd, yn gorwedd yn Ei waed,
Dan ei faich, yn archolledig
   O’i ben ysig hyd Ei draed;
Heb un cyfaill i dosturio,
   Heb un balm i’w galon friw,
Codai Iesu lef drugarog
   Am i’r euog gwael gael byw.

Gadael uchel sedd gogoniant,
   Gadael moliant dirif lu,
Gadael hardd frenhinol goron
   Wnaeth ein tirion Iesu cu;
Disgyn wnaeth ar edyn cariad,
   Achub oedd Ei fwriad E’,
Daeth o’i fodd i gystudd chweiw,
   Daeth i farw yn ein lle.

Yn y preseb, pan yn faban,
   Llesg ac egwan gwelwyd Ef:
Isel annedd, gwael ymgeledd,
   Gadd Etifedd mawr y nef:
Eto seren gain y dwyrain,
   Wenai ar ei lety gwael;
Thus, a myrr, ac aur-anrhegion,
   Wrth Ei draed ro’i’r doethion hael.

Dirif luaws ser y bore,
   Drwy’r wybrennau seinient gân,
Gan fwyn ateb cyngan nefol
   Y waredol dyrfa lân:
Gras, cyfiawnder, a gwirionedd,
   A thrugaredd yn gytun,
Wrth yr orsedd yn hoff wenu
   Am gael modd i godi dyn.

Cilio wnaeth y tew gysgodau,
   Gwawriodd hyfryd oleu ddydd;
Nid oes eisiau gwaedlyd ebyrth,
   Thuser aur, nac allor bridd:
Daeth y Gogoneddus Sylwedd,
   Daeth yr addawedig Had,
Cododd disglaer Haul Cyfiawnder,
   Sain y durtur sydd trwy’r wlad

Mwy ni cheisir urddau Aaron,
   Olew pêr, na brasder ŵyn;
Gwisgo’r Urim ar ei ddwyfron
   Yn y nef mae’r Iesu mwyn;
Wrth yr allor aur mae’n gweini,
   Clywir adsain clychau hedd;
Yn Ei law mae’r aur deyrnwialen,
   Wrth Ei glun mae’r dwyfol gledd.

Hoeliodd ddeddf yr ordinhadau,
   Oedd i’n herbyn, wrth Ei groes,
Gan yspeilio’r awdurdodau
   Pan yn dioddef angau loes;
Cododd faner wen trugaredd,
   Drylliodd gedyrn byrth y bedd,
Seiniodd jubil lawn i’r caethion,
   Ac arlwy odd radlawn wledd.

Agoriadau y llywodraeth
   Wisgwyd ar Ei ysgwydd Ef,
Rhoddwyd iddo bob awdurdod
   Ar y ddaer ac yn y nef;
Marchog mae yng ngherbyd cariad,
   Troi o’i gylch mae engyl nef;
Sigla cedyrn byrth y fagddu
   Hyd eu sail wrth rym ei lef.

Croesaw iddo wisgo’r goron,
   Aed Ei enw dros y byd;
Plyged pawb i’w fwyn awdurdod
   Am Ei gymod Ef inewn pryd;
Boed i’r euog tlawd ymguddio
   Dan Ei dawel gysgod Ef,
Boed i’r gwannaf ffyddiog bwyso
   Ar Ei fraich alluog gref.

Mewn gogoniant dirfawr eto,
   Heb y groes a’r goron ddrain,
Disgyn gyda myrdd myrddiynau,
   Llawen floedd, ac uchel sain;
Cwyd Ei orsedd, egyr lyfrau,
   Sigla seiliau dyfna’r bedd,
Lleda’r wyntyll, hwylia’r clorian,
   Ysgwyd fry Ei farnol gledd.

Pan y ffy y nefoedd heibio,
   Pan y byddo’r ddaer yn dân,
A’r holl anwir fyd mewn cyffro,
   A llu’r saint yn seinio cân;
Pan y todda’r euog ymaith
   Dan lewygon bythol fraw,
Boed i ni gael tawel orffwys
   Ar ei dirion ddeheu law.

BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL BLYNYDDOEDD.

Dan Haul Y Prydnawn.  (Bythynod yn Llanbrynmair)

Efengyl oludog!  Angyles trugaredd,
   Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd;
Ym mantell dy harddwch, ar gerbyd dy haeledd,
   Dos rhagot nes llenwi y byd â dy hedd;
Mae gennyt ti’n barod wledd lawn i’r newynog,
   A chymod i’r euog, a hardd-wisg i’r noeth,
A thrysor i’w rannu rhwng tlodion anghenog,
   Sydd fyrdd mwy ei werth na mil myrdd o aur coeth.

Mae’r byd yn ymysgwyd o gwsg mil o oesau,
   Gan dditif dylwythau cei roesaw i’w mysg,
A gwastad balmantwyd ffyrdd rhyddion i’th gerbyd
   Gan feibion celfyddyd, masnachaeth, a dysg:
Peiriannau tân cariad i droi dy olwynion
   Yw’r llon Gymdeithasau addurnant ein gwlad;
A chwareu diwy’r nef mae holl dannau gorfoledd,
   Fod gobaith i ddyn gael ymgeledd yn rhad.

Cyhoeddwyd o’r cynfyd gan lais ysbrydoliaeth
   Am bur effeithiolaeth diatal dy ras,—
Llwyr ofer i’r bobloedd i’th erbyn derfysgu,
   I lengoedd y fagddu amlygu eu câs:
I’th ddilyn wrth d’alwad cwyd torf o genhadon
   A’u calon yn fflamio dan fedydd o dân;
Ymdaenu trwy wersyll y gelyn mae’r cyffro,
   Mae’r delwau’n malurio yn fawrion a mân.

Mae’th weision yn barod i gludo’th drysorau
   Trwy’r ’stormydd, tros donnau trochionogy y môr;
Wynebant yn llon ar dros fil o ynysoedd,
   I dd’weyd am oludoedd trugaredd yr Ior;
Dilynant afonydd, ânt trwy anial-diroedd,
   A dringant fynyddoedd clogwynog yr ia,
I ddangos i adyn ar suddo mewn adfyd
   Fodd i achub ei fywyd a symud ei bla.

Mae llwythau yr Oen, wrth dy weld, yn gwroli,
   Llawenydd a chân sy’n coroni eu pen;
Mae gwresog bêr anadl eu cariad a’u gweddi
   Yn chwalu’r cymylau fu rhyngddynt a’r nen;
A gwelir ysprydoedd y perffaith gyfiawnion,
   Fel cwmwl o dystion ar furiau y nef,
Yn plygu i wrando’u plethedig ganiadau,
   Gan hwylio’u telynau i ateb eu llef.

Daeth Iesu o Bosra a’i ddillad yn gochion,
   Gan ymdaith yn eon yn amlder ei rym;
Enillodd holl yspail y tywysogaethau,
   Gall ddial, neu faddeu,—ei gledd sydd yn llym;
O’i orsedd llefara mewn iawnder a chariad,
   Mae’n gwisgo agoriad awdurdod a bri;
Gan hynny ni lwydda dy elyn na’i luoedd,
   Mae Brenin y nefoedd yn Noddwr i ti.

Wrth wrando dy gais dros y Gŵr a groeshoeliwyd,
   Dwysbigwyd calonnau myrddiynau cyn hyn,
A denwyd trueiniaid i droi eu hwynebau
   O swynol lwyn Daphne i Galfari fryn;
Dadblygaist dy faner ar brif-ddinas Rhufain,
   Ce’st luoedd yn Athen i ganmol y gwaed;
A golchaist yn Nghorinth dorf fawr o’r rhai duaf,
   Gan wisgo mewn gwyn yr aflanaf a gaed.

Dy lais yn oes Luther ddychrynnodd y bwystfil,
   Dy wên doddodd galon y Greenlander draw,
A dofwyd cynddaredd y Bushman trwy’th eiriau,
   Nes gollwng ei saethau gwenwynigo’i law;
Dy felus beroriaeth trwy helaeth goedwigoedd
   America fras, ac Ynysoedd y De,
A ddenodd farbariaid o’u dawns yn y llwyni,
   I wrando a chanu am gariad y Ne’.

Dihunodd yr udgyrn gydwybod Brytania
   I ollwng wyth gan-mil o’i chaethion yn rhydd;
A gyrraist gyflawnder o bêr-falm Calfaria
   I wella archollion y galon fu’n brudd;
O gylch elor gormes mae myrdd o gadwynau
   Ar wasgar yn ddarnau drylliedig dan draed;
A’r famaeth a’i maban sy’n llon gadw jubil
   Uwch bedd yr anghenfil fu’n meddwi ar waed.

Gorchfygodd yr Oen i agoryd y seliau,
   A llawn yw’r phiolau ar allor y nef;
Hardd sefyll o’u cylch mae eneidiau’r merthyron,
   Mewn gynau claerwynion, yn llawen eu llef;
O’u llwch cododd ysbryd a ddryllia’r cadwynau
   Fu’n dal cydwybodau am oesoedd yn gaeth;
Pinaglau coelgrefydd yn chwilfriw a chwelir,
   A’r gelyn ymlidir i’r llyn o’r lle daeth.

Bu anghymedroldeb yn llifo am oesau,
   Bu’n lledu ei donnau fel dylif o dân;
A chyfoeth, a chysur, a bywyd myrddiynau,
   Er pob atal-furiau, ysgubid o’i flaen;
Ond codaist dy faner er atal ei ymchwydd,
   A safodd yn ebrwydd, a chiliodd mewn brys;
Ac ’nawr lle bu’r gelyn yn creulawn deyrnasu,
   Mae rhinwedd yn codi hardd orsedd ei lys.

Bu erchyll olwynion car Moloch Hindostan
   Yn treiglo dros balmant o esgyrn a gwaed,
A myrdd o rai gwallgof dan floeddio’n ei dynnu,
   Gan fathru eu plant a’u rhieni dan draed;
Ond safodd er’s dyddiau, ni faidd dy gyfarfod,
   Mae’n suddo i’r tywod, a’i lu’n cilio draw;
Mae blodau sidanaidd ei dŵr wedi gwywo,
   A’i gêr yn malurio trwy’r tes a thrwy’r gwlaw.

Heb ddim o ffydd Abram, bu myrdd o’i hiliogaeth
   Dan iau annghrediniaeth yn gaeth lawer oes;
Ond troant i’th ddilyn, gan gerdded ac wylo,
   Nes tawel ymffrostio yn Aberth y groes;
Ail-hwylir y delyn fu’n hir ar yr helyg,
   Daw’r llwythau crwydredig i Seion mewn hedd;
Am ryfedd rinweddau y gwaed y cydganant,
   A melus ganmolant gyflawnder y wledd.

Trwy’r fro lle bu Israel yn lledu ei babell,
   Bro cafell y ddisglaer Shecina cyn hyn,
Bro melus beroriaeth telynau’r proff wydi,
   Bro’r ardd lle bu’r chwysu, bro Calfari fryn:
Trwy honno mae’r wawr ’nawr yn gwasgar ei goleu
   I ymlid cysgodau coelgrefydd ar ffo;
Trwy honno tyrr eto sain tannau gorfoledd,
   A blodeu tangnefedd goronant y fro.

Hardd Rosyn Glyn Saron a siriol flodeua
   Ar foelydd Siberia a gwledydd yr ia,
A’r awel wasgara ei iraidd aroglau
   Nes gwella tylwythau y Tartar o’u pla;
I wlad y Saith Eglwys fu gynt yn flodeuog
   Estynnir yr eurog ganwyllbren yn ol,
Ceir eto fflam fywiol o’r allor i danio
   Lamp gras i oleuo pob bryn a phob dôl.

Dan iau tri chan miliwn o eilunaddolwyr
   Mae China mewn gwewyr yn griddfan yn awr;
Ond siglwyd ei mur, er cadarned ei seiliau,—
   Mae eisoes yn fylchau, daw’n ddarnau i lawr;
Llon-gyrcha minteioedd i gysgod ei llwyni
   I ddarllen a chanu am Aberth y bryn,
Ti wy demlau Fôbî mae cerí-ddelwau yn crynnu,
   A’u crefftwyr yn gwelwi, gan ediych yn syn.

Mae awel adfywiol yn awr yn ymsymud
   Ar wyneb du-ddyfnder cymysglyd y byd;
Ar dymor dymunol mae’r nefol addewid
   Bron esgor—mae gwewyr drwy natur i gyd:
Llawn bywyd yw heinif forwynion Rhagluniaeth,
   Mae tannau mwyn odiaeth pob telyn mewn hwyl,
Mae arlwy frenhinol yn rhad i’r holl bobloedd,
   A mil o flynyddoedd fydd yspaid yr wyl.

Goleuni gwybodaeth trwy’r ddaear ymdaena,
   O’i flaen yr ymgilia’r tywyllwch yn glau;
Breuddwydion coelgrefydd fel niwl a ddiflanna,
   A’r bleiddiaid gormesol a ffoant i’w ffau;
Cyfaredd y friglwyd ddewines a dorrir,
   Y Gair a ddilynir fel Rheol y Gwir;
Doethineb fydd sicrwydd a nerth yr amserau,
   Hyfrydwch hardd-fryniau y nef leinw’r tir.

Holl ddoniau yr enaid a gydymegniant
   Er cynnydd ei fwyniant a symud ei boen;
Harddwisgir traethodau’r anianydd dysgedig
   Ag iaith ostyngedig o fawredd i’r Oen;
Diweirdeb a rhinwedd a hoffant felusder
   Y delyn fwyn seinber roes gynt iddynt glwy;
I chwythu eu gwenwyn dan flodeu maes awen,
   Colynawg seirff uffern ni lechant yn hwy.

Gwir ydyw fod rhannau o’r wybren mewn cyffro,
   Ond tyrfu wrth gilio mae’r ’storom yn awr;
Cenfigen a drenga, a nefol dangnefedd
   Deyrnasa mewn mawredd dros wyneb y llawr;
Dinystriol beiriannau tân rhyfel a ddryllir,
   Y march coch a rwymir mewn cadwyn o bres;
Ymleda yr heulwen nes chwalu’r tywyllwch,
   A blodeu brawdgarwch a dyf yn ei gwres.

Defnynna sancteiddrwydd o’r nef fel gwlith Hermon,
   Melysa gysuron holl gylchoedd y byd,
Addurna y cerbyd, y meitr, a’r goron,
   Nefola serchiadau y galon i gyd;
Ireiddia ei olew olwynion masnachaeth,
   A hwylia ei awel holl longau y môr,
Ei darth gwyd o’r allor, a’i iachus aroglau
   A leinw holl gonglau cysegroedd yr Ior.

Yr anial di-annedd, fel rhosyn, flodeua,
   Y myrtwydd addurna hardd odre y bryn,
Ym mhen y mynyddoedd bydd yd yn ddyrneidiau,
   Tyf brwyn lle bu’r dreigiau, daw’r crasdir yn llyn;
Bwytânt o bêr-ffrwythau’r gwinllannoedd a blannant,
   A’u tai gyfaneddant dros ddedwydd oes hir;
Hardd-wridog a heinif y ceir y mab canmlwydd,
   Hyfrydwch a llwydd a briodant y tir.

Sylfaenir pryd hyn y Jerusalem newydd
   A saphir,—a hon fydd gogoniant y byd;
O feini dymunol y gwneir ei therfynau,
   A’i phyrth fydd o berlau uchelbris i gyd;
Agaur y palmentir ei llydain heolydd,
   O fewn ei magwyrydd bydd iechyd dilgth,
A thrwy ei grisialaidd ffenestri tywynna
   Gogoniant Jehofa, heb fachlud mwy byth.

Tymhorau ei gweddwdod a’i galar a dderfydd,
   Llawenydd i’r holl genhedlaethau a fydd;
O fewn ei therfynau am drais byth ni chlywir,
   A chenedl a enir o’i mewn yr un dydd;
Brenbinoedd a welant ei disglaer ogoniant,
   Ac iddi y dygant anrhegion heb rif;
Diwellir ei phlant â helaethrwydd diddanwch,
   A’i heddwch ymchwydda fel tonnau y llif.

Llys Ior geir i’w chanol, ac allan o’i oisedd
   Yr afon risialaidd a lifa heb drai;
O’i deutu bydd tyrfa nad elli ei rhifo
   Yn rhodio heb deimlo na melldith na gwae;
Dan gysgod iachusol gwyrdd ddail pren y bywyd
   Cydgadwant wyl hyfryd heb lygredd na phoen;
A’r Oen gadd ei ladd a’u bugeilia hwy’n wastad,
   A byrdôn eu caniad fydd—“Teilwng yw’r Oen.”

CILHAUL UCHAF.

Ychydig flynyddoedd yn ol yr oedd ffarmwr ymdrechg ar o’r enw John Careful, a’i wraig ddiwyd Jane Careful, yn byw yn Nghilhaul Uchaf, yn nhalaeth Gwynedd.  Yr oedd iddynt chwech o blant—tri mab a thair merch—oll wedi tyfu i fyny yn bobl ieuainc iachus, cryfion, bywiog, gweithgar a gofalus; ac yr oeddynt yn diwyd serchog gynorthwyo eu ihieni yn holl wasanaeth y ffarm.  Yr oedd y rhan fwyaf o’u tyddyn yn dir gwlyb, oer, melyn, cleiog, a phur dlawd.  Yr oll a fedrent wneyd mewn cylch blwyddyn o holl gynnyrch y ffarm oedd oddeutu £185; tra yr oedd y talion—rhent, degwm, trethoedd, cyflogau, gwrteith au, porfa gaeaf, &c., &c., yn llawn £220.  Ar ol llawer o lafur, ac o ludded, ac o bryder, ac ar ol rhes o ffeiriau pur farw a digalon, darfu i John Careful un bore rhent anturio crybwyll wrth y steward nad oedd dim modd iddo yn wir wneuthur y talion o’r ffarm.  Edrychodd y steward yn ddu ac yn llym arno, ac atebodd yn bur sychlyd y dylai wneyd mwy o’r ffarm: ei fod ef wedi darllen rywbryd yn ddiweddar, mewn rhyw bapyr newydd, am ryw ffarmwr yn rhywle, ag oedd yn talu llawer mwy o rent nag oedd ef yn dalu, a hynny am ffarm lai na’i ffarm ef; ac ychwanegodd y byddai yn hawdd iddo osod Cilhaul Uchaf am rent uwch na’r rhent presennol.  Wrth glywed y steward yn siarad mor graslyd, ac wrth ei weled yn edrych mor gibog, dywedodd John Careful dan grynnu, a’i wefusau yn gwynnu, ei fod ef a’i deulu yn awyddus i wneyd eu goreu; ac yna, heb yngan sill yn ychwaneg, ymgiliodd allan o’r ystafell yn wysg ei gefn, dan fowio i’r steward yn y dull gostyngeiddiaf.  Parhodd geiriau cras y steward—“y dylai wneyd mwy o’r ffarm”—i seinio yn ei glustiau am hir amser wedi hynny.  Yr oedd ef a’i wraig a’i blant yn awyddus iawn am wella y ffarm.  Gwyddent y gellid ei gwella; ac yr oeddynt wedi meddwl ac ymddiddan llawer am gynllun i drin yn well; ond yr oeddynt yn ofni traul y drefn newydd.  Beth bynnag, gan fod y steward wedi rhoddi awgrym mor gryf ac mor eglur iddynt am drin yn well, penderfynasant gynnyg yn deg am amryw welliantau: ac ar ol cyfnerthu y wedd, a phrynu offer newyddion, a chyflogi ychwaneg o ddwylaw, darfu i’r gŵr a’r wraig a’r plant, i gyd oll yn wyth enaid, gydymroi i lafurio yn ddiflino am welliantau am dros dair blynedd.  Ond ar ol gwneuthur y cyfrifiad manylaf, cawsant er eu siomedigaeth fod y draul ychwanegol tuag at welliantau yn llawn triugain punt y flwyddyn, tra nad oedd gwerth cynnyrch y gwelliantau hynny prin yn ddeugain punt y flwyddyn: ac felly eu “hennill” drwy y gwell-iantau a ddirgymhellwyd arnynt gan y steward oedd colled o ugain punt yn y flwyddyn.  Yr oedd y steward, a llawer o foneddigion eraill, ac amryw o’r cymydogion, yn eu canmol yn fawr iawn ac yn fwyn iawn, am drefn dda eu tyddyn; sylwent fod wyneb a chalon eu tyddyn yn glod iddynt, ac yn brydferthwch i’r gymydogaeth: ond nid oedd yr holl ganmoliaeth oeddynt yn gael ddim yn gymorth iddynt at dalu hyd yn nod am hoelen pedol; ac felly colled o ugain punt y flwyddyn oedd y wobr gyntaf a gafodd y Farmwr Careful am ei ofal a’i ludded a’i arian gyda “gwelliantau.”

Gyda bod y ffarm wedi cael ei gwella a’i threfnu yn y dull a grybwyllwyd, daeth y steward heibio yn lled fore un diwrnod yn yr haf, pan oedd yr ydau ar hedeg; ac wedi dweyd “bore da i chwi” wrth John Careful, ac wedi gwneyd wyneb rhyw hanner-stewardaidd i ofyn mewn llais dienaid am iechyd a helynt ei wraig a’i blant, dywedodd dan wenu yn bur foneddigaidd fod yn hoff iawn ganddo weled Cilhaul Uchaf mewn calon ac mewn trefn mor rhagorol; ei fod yn falch iawn o’r olwg oedd ar y tyddyn, a bod yn dda ganddo fod y gair ar led fod y prisiau braidd yn codi; a bod y seneddwyr aurhydeddus ac enwog Mr. B. a Mr. D. a Mr. Y. wedi hyfgyhoeddi yn eu bareithiau diweddar o ben Assblock y farchnadfa eu bod am gymeryd i fyny achos y ffarmwr yn y senedd newydd, a’u bod am adsefydlu treth yr ŷd a phob cynnyrch tramor; ond ychwanegai y steward mewn llais mwyn, tyner, isel, dan fân-gecian, fod cyfiawnder ag ymddiriedaeth y swydd bwysig oedd ganddo fel steward yn ei orfodi i godi mymryn—mymryn bach ar y rhent.  Nis gallai ddweyd yn fanwl y bore hwnnw pa faint, ond ymrwymai y cai y codiad fod yn bur deg a rhesymol—na chai ddim bod dros bymtheg ar hugain y cant.  “A gobeithio,” meddai, “yr ewch rhagoch i wella eich ffarm, oblegid yn y dyddiau goleu hyn o iawnder a diwygiad, pan y mae arglwyddi tiroedd mor enwog o ran eu craffineb a’u tegwch a’u gofal, a phan y mae y stewardiaid mor hynod o ofalus ac o gydwybodol ac o deimladwy am galonogi y tenantiaid, bydd ffarmwyr ymdrechgar yn sicr o gael tâl da am eu llafur, a llog da am eu treuliau wrth wella eu tyddynod.”  A dyma oedd yr ail wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei flynyddoedd o welliantau llafurus a drudfawr yn Nghilhaul Uchaf.

Cyn pen teirawr ar ol i’r steward droi ei gefn, dacw bwtyn byr tew wynebgoch pwfflyd bolfawr o ddegymwr yn dyfod drwy y nant, ac ar draws y rhos, a thros y gwrych, a’i lyfr “counts” yn ei law, ac yn dringo i edrych dros y wal i gyfrif y gwyddau oeddynt ar y llyn, ac yna yn estyn ei ben drwy y twll oddiar ddrws cut yr hwch fagu i gyfrif ei thorllwyth diweddaf; ac wedi hynny yn galw ar John Careful ato i’w holi am nifer y defaid a’r ŵyn noson y cneifio diweddaf, ac i ofyn iddo amryw bethau eraill; a rhybuddiai y degymwr y ffarmwr i fod yn bur fanwl yn ei gyfrifon.  “Oblegid,” meddai, “rhaid i mi fod yn fanwl iawn y tro yma i’ch gosod chwi i lawr yn ol eich llawn werth, oblegid y prisiad yma sydd i fod yn sylfaen i’r drefn newydd ag y mae fy meistr parchedig a dirprwywyr y degwm wedi cytuno i sefyll ati o hyn allan.”  A darfu i’r degymwr boliog, cyn symud o’r fan honno, ledu’i gount-book ar garreg y wal, ac â’i bwt pensil black lead ferr fawr bron ddyblu degwm Cilhaul Uchaf: a dyna oedd trydedd wobr John Careful am ei welliantau amaethyddol.

Ymhen llai na mis ar ol hynny, daeth tri o briswyr heinyf craffus yn enw y plwyf, a thros y festri fach, i edrych dros ffarm Mr. John Careful.  Yr oeddynt yn siriol ac yn siaradus iawn wrth ganmol ei thriniaeth a’i threfn; a dywedent fod Mr. Careful yn haeddu tlws arian am y cae maip uchaf, a sylwent fod ei gnwd gwenith yn hynod o lân ac o wastad, ond ei fod braidd yn ysgafn: ac yna, ar ol sisial ychydig o eiriau yng nghlustiau eu gilydd, a nodio, a wincio, a hwm-hamio, cryn dipyn, darfu iddynt gofnodi i lawr yn eu llyfr godiad o naw punt at drethoedd plwyfol Mr. Careful, heb ofyn iddo gymaint ag un gofyniad, na cheisio ganddo un gair o eglurhad am ddim o hanes y ffarm, nac o’r draul a gymerodd i’w gwella; a dyna oedd ei bedwaredd wobr amer welliantau amaethyddol yn Nghilhaul Uchaf.  Yr oedd rhai o’r cymydogion cyfrwysaf a hwyaf eu pennau yn awgrymu y dylasai John Careful fod wedi cyrchu ychydig o French Brandy i’r tŷ erbyn dyfodiad bol y degymwr heibio, ac y buasai yn burion peth fod ganddo alwyn o gwrw da wrth law pan oedd y priswyr yn gwneyd i fyny eu cyfrif o werth ei dyddyn.

Yn lled hwyr brydnawn y dydd ar ol hynny, daeth Peggy Slwt Slow, gwraig yr hen Ned Slow, at y drws; ac wedi gwneyd wyneb hir hyll crychiog, dywedodd fod Ned yn methu cael dim gwaith er’s llawer dydd, a’u bod heb yr un tamaid o fwyd yn y tŷ; a bod yr hyn a oedd Ned wedi gardota iddynt ddydd Sadwrn, a dydd Sul, a dydd Llun, yn y cwm draw wedi darfod; a’i bod hi wedi cymeryd i fyned drwy y cwm yma heddyw, mewn gobaith o gael tipyn bach i’w cadw hwy a’r plant yn fyw dan ddydd Sadwrn, pan y cai eu merch hynaf Pol (os gallent gael ei hesgid oddiwrth y cobbler heb dalu am ei thrwsio) neu ynte y cai ei brawd Bob fyned i lawr y dyffryn i gardota ychwaneg iddynt: a chwanegai Peggy ei bod yn mawr obeithio y caent eu henwau i lyfr y plwyf yn y festri nesaf, oblegid fod Squire Three X Tap yn bur hoff o Ned ac o’r bachgen hynaf, am fod y ddau mor barod i redeg gyda milgwn a by theuaid y Squire bob tro y byddent yn dyfod y ffordd hynny.  Ac ychwanegai Peggy fod y Squire wedi addaw troi i mewn i’r festri cyn ei diwedd i ddweyd gair drosom, a bod ei ddull a’i lais cry fyn sicr o fynnu gwrandawiad: ac awgrymai Peggy ymhellach i’r Squire, pan unwaith mewn diod, edrych yn bur fant-lon ar lygaid gleision Nansi ei merch, ac iddo sylwi ei bod yn tyfu yn lodes fawr lân gref dal dew brydferth, ac y gwnai ef rywdro rywbeth i Nansi.  Yr oedd wyneb Peggy yn gloewi ac yn llonni pan y siaradai fel hyn am y Squire ac am Nansi, ac am gael myned i lyfr y plwyf; ond gan ei bod yn eglur fod cwpwrdd Peggy y noson honno yn wag, dymunodd John Careful ar ei ferch hynaf roddi iddi gardod o flawd ceirch, digon i wneuthur swper da o uwd i’r teulu anghenus y noson honno.  A dyna oedd pumed wobr Ffarmwr Careful am wella ei feusydd.

Yn lled hwyr y noson honno, ar ol oriau gweithio, galwodd Billy Active gyda Mr. Careful, a chyda gwedd drist isel, dywedodd wrtho ei fod allan o waith; fod ei hen feistr gofalus Fychan Graff o’r Ffarm Fawr wedi hollol wneyd ei feddwl i beidio cynnyg byth mwy am ddim “gwelliantau” er elw i bobl eraill.  Yr oedd ef unwaith wedi meddwl a son llawer am sychu Dol y Brwyn, a chlirio y Wern Ddu, ac unioni gwrych y Ddol Gam, a rhannu y Ffridd Hir yn ddwy, a gwneyd ffordd newydd sych galed dda ar draws yr holl ffarm.  Ond y mae wedi bod yn ystyried ac yn cyfrif y tâl a gawsoch chwi am eich holl welliantau, ac y mae wedi dysgu oddiwrth y cam a’r golled a gawsoch chwi y wers bwysig o beidio meddwl am ddim gwelliantau byth mwy.  Y mae wedi cael argyhoeddiad trwyadl mai y ffordd oreu o lawer iddo ef ydyw gwneyd mor ychydig ag y medro, a gwneyd yr ychydig hynny yn y ffordd rataf ag y medro, fel yr hen ffarmwr distaw llonydd hirben Owen Dwl o’r Ffridd Groes.  Ni wariodd Owen yr un chwecheiniog am na gwelliantau nac adgyweiriadau er’s dros bymtheg mlynedd ar hugain; a’i ffarm ef y dydd heddyw ydyw y rataf yn yr holl gymydogaeth, ac wrth weled pethau fel hyn, y mae fy hen feistr Fychan Graff yn penderfynu gwario o hyn allan cyn lleied ag y medro ar y ffarm; ac y mae newydd fy ngollwng i, a’r dynion eraill oedd ganddo yn gweithio wrth y dydd, i’n ffordd;—ond yr oedd ei wyneb yn wyn, a’i lygad yn llawn, a’i wefus yn crynu, wrth ein gollwng ymaith.  Y mae wedi addaw talu i ni gyflogau y chwarter diweddaf yn mhen pymthegnos; ac yr wyf yn deall fod amryw eraill o ffarmwyr yr ardaloedd hyn yn debyg o ddilyn ei siampl.  Nid oes gennyf ddim golwg yn awr am gael gwaith, ac nis gallaf oddef meddwl am fyned ar y plwyf.  Nid wyf yn hoff o’r ysmocio a’r yfed, a’r gwasanaeth afiach a budr sydd yn llawer o ardaloedd y gweithiau; ac mae fy ngwraig a minnau wedi gwneyd i fyny ein meddyliau i ymfudo ar unwaith i America ar ol ein cefnder Tomy Strong.  Yr wyf newydd dderbyn llythyr annogaethol iawn oddiwrth Tomy.  Costiodd y llythyr swllt i mi, er nad yw yn pwyso mo’r bumed ran o owns.  Y mae Tomy, a phob un o’r bechgyn a’r merched a aethant gydag ef, yn gwneyd yn dda iawn yn America; ac yr ydym ninnnau yn penderfynu myned yno tra byddo gennym ddigon o fodd i fyned.  Y mae gennym ddigon yn awr; o leiaf bydd gennym, ar ol gwerthu hynny o ddodrefn sydd gennym, ddigon i’n cario ni ein dau, a’n tri phlentyn bach, i Wisconsin.  Pe baem ni yn ymdroi ac yn oedi, ac aros yn segur yn y wlad yma nes i Betsy wella ar ol y baban nesaf, mae’n bur debyg na byddai gennym ddim digon o fodd i fyned; ac felly yr ydym yn gwbl benderfynol i fyned yn awr ar unwaith.  Y mae y rheilffyrdd a’r llongau yn cludo yn awr am brisiau pur resymol.  Yr ydym am barotoi barilaid dda o fara ceirch ac ymenyn a chaws, a thipyn o gig moch, a phethau anghenrheidiol felly, yn ddioed: a byddwn yn wir yn ddiolchgar iawn i chwi os rhoddwch fenthyg dwy bunt i ni am bymthegnos, pan y caf fy nghyflog i dalu yn ol i chwi; ac yna ni allwn brynnu rhyw betheuach anhebgorol at y fordaith am arian parod, a bydd Betsy a minnau, os parhawn i gael ein hiechyd, yn sicr o wneyd yn dda yn America.  Gwyddoch ein bod bob amser yn foddlon i weithio, a’n bod yn hoff o weithio, ac nad ydym byth yn ddedwydd os na bydd gennym ddigon o waith.”

Methodd calon dyner John Careful wrthod cais Billy Active yn y fath wasgfa.  Estynnodd iddo y benthyg gofynedig dan bron wylo wrth feddwl am golli teulu mor ddiwyd ac mor weithgar, mor garedig ac mor onest o’r ardal: a thyna y chweched wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei ludded a’i ofal a’i dreuliau wrth “wella” Cilhaul Uchaf.

Cyflwynwyr Tysteb S. R.

Ar ol dwys fyfyrdod yn ei galon ar y pethau hyn ddydd a nos am lawer o wythnosau, teimlai John Careful fwyfwy, ac yn ddwysach ddwysach, ei fod wedi cael cam, a’u bod wedi ymddwyn yn annheg iawn tuag ato.  Ac un bore, pan ydoedd ar dipyn o neges yn yr Efail wrth y dafarn, cwynodd yn lled uchel, ac mewn iaith gref, yng nghlywedigaeth rhyw segurwyr masweddgar a diog oedd yn ymlechian o amgylch yno, nid yn unig ar berson y plwyf, a’r degymwr, a’r cardotwyr, ond hefyd ar y meistr tir a’r steward.  A’r diwrnod cyntaf oll ar ol hynny darfu i Bob Clep, neu Jack Cant, neu Mrs. Gossip, neu Bessy Tattle, gario y cyfan oll a ddywedodd, a mymryn bach dros ben hefyd, i deulu y steward; a rhoddwyd llinell ddu ar unwaith ar gyfer ei enw yn llyfr private y steward, ac anfonwyd gair am dano fel tenant ystyfnig a grwgnachlyd y prydnawn hwnnw at ei arglwydd tir, a deallwyd yn fuan drwy yr holl ardal fod John Careful druan wedi llwyr golli ffafr y steward a’i deulu.

Oddeutu yr amser hynny darfu i Mr. Jacob Highmind, yr hwn oedd newydd gael pedwar cant o bunnau ar ol ei hen ewytthr o Lundain, briodi Miss Jenny Lightfoot, yr hon oedd newydd gael dau gant o bunnau iddi ei hun ar ol ei mam gu; ac yr oedd y ddeuddyn ieuainc, gan eu bod newydd briodi, yn awyddus iawn am gael ffarm er dechreu byw; ac felly darfu i Jacob un bore, wrth groesi moel ei gymydog, saethu dwy betrisen, a phrynnu pwys o’r “gunpowder tea” goreu, i’w hanfon yn anrheg i wraig y steward; ac awgrymodd yn gynnil yn ôl-ysgrifen ei lythyryn boneddigaidd y byddai yn dda iawn iawn ganddo ef a’i wraig newydd Jenny gael ffarm dan Lord Protection.  Yn bur fuan ar ol byn, yn lled hwyr ar noson marchnad, gweithiodd Jacob ei ffordd, drwy landlord neu landlady y Queen’s Head, i ystafell y steward yno, a chafodd adeg a chyfle da iawn i ddangos ei foes i’r steward, ac i adnewyddu ei gais am ffarm cyn gynted ag y gellid ei chael.  Crybwyllodd y steward wrtho yn bur ddistaw, ac fel secret i’w gadw rhag pawb, fod John Careful o’r Cilhaul Uchaf yn debyg iawn o ymadael oddiyno; ac os deuai y ffarm honno yn rhydd y gwnai y tro i’r dim iddo ef ac i’w wraig newydd.  Gwyddai Jacob yn burion fod Cilhaul Uchaf mewn cyflwr a threfn da dros ben; a bowiodd yn foesgar ac isel iawn wrth ddiolch i’r steward am ei awgrym caredig.  Canodd y gloch yn union am botelaid o Champagne digymysg goreu; yfodd iechyd da Lord Protection a’i stewardiaid; ac yna ymgiliodd allan, gan fowio yn foneddigaidd iawn, a gadawodd y Champagne wrth ddeheulaw y steward.

Ymhen llai na mis ar ol y digwyddiad bychan yma, daeth y steward i’r gymydogaeth i gasglu ôl-ddyledion; ac anfonodd i erchi am i John Careful (er nad oedd dim ôl-ddyled arno ef) i ddyfod i’w gyfarfod ef i’r Queen’s Head erbyn naw o’r gloch bore drannoeth.  Brysiodd Mr Careful yno yn brydlawn, gan obeithio cael rhyw newydd da, drwy ei fod bob amser wedi gofalu am y rhent i’r diwrnod.  Ar ol disgwyl yn bur hir oddeutu y drws, cafodd ei alw i mewn.  Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneyd y dydd o’r blaen wrth yr Efail; fod ei rent ef yn bur resymol yn wir,—ei bod yn llawer îs na rhenti ffermydd cymydogaethol arglwyddi eraill.  Nid oedd Ffarmwr Careful wrth gychwyn mor fore tua’r Queen’s Head, ac wrth chwysu yn ei frys i gyrraedd yno mewn pryd, ac wrth ddisgwyl yno ar ol hynny nes oeri braidd gormod—nid oedd ddim wedi dychymygu mai myned yno i gael ei drin a’i athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly, pan yr oedd yn agor ei glustiau a’i lygaid am ryw newydd cysurus, gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly,—ei fod ef a’i deulu wedi gwneyd eu goreu yn mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a’i wraig a’i blant yn cydymroi weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr—nad oedd byth na smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o’r fath beth yn eu ty; eu bod wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm, y cyfan oll o’r chwe’ chan punt a dderbyniodd ei wraig yn gynhysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon er’s blynyddau i lôg yr arian hynny gael myned i wneyd i fyny’r talion yn y blynyddau drwg presennol; ei fod wedi hoff-obeithio gallu cadw y £600 yn gyfain i’w rhannu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y £600 i gyd oll wedi myned, ac na byddai y stoc ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad.  Wrth glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho,—

“Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny.”

“Yn wir, syr,” atebai y tenant, “rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir rhyw gyfnewidiad yn fuan.”

Hwdiwch ynte,” ebe y steward, “dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael Gwyl Fair.”

Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y byddai yn galed iawn i’w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau; ei fod ef a’i wraig a’i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu eto am flwyddyn neu ddwy mewn gobaith am amserau gwell.  Ond brysatebodd y steward yn bur sarrug,—

“Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd gennych.  Gwell i chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai.  Hydiwch, dyma’r notice i chwi ymadael.  Rhaid i mi yn awr fyned at orchwylion eraill—bore da i chwi.”

Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda chalon drom iawn; a phan oedd yn gorffen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneyd, daeth y tri mab yn annisgwyliadwy i’r tŷ.  Daethant hanner awr yn gynt nag arferol, am eu bod wedi gorffen cau y gwter fawr yng ngwaelod y braenar, a galwasant heibio i’r tŷ am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall i’r ffarm.  Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a’u mam.  Bu tafodau pawb am ennyd yn fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod achos blinder eu rhieni.  Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr oll a gymerasai le.  Gwrandawsant hwythau arno yn fudsynedig; ac ar ol iddo dewi, edrychasant ar eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan gair.  O’r diwedd torrodd y tad ar y distawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg deimladau,—

“Yr oeddwn i wedi hoff-obeithio y cawswn orffen fy nyddiau yn Nghilhaul Uchaf, ac wedi breuddwydio llawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr ywen fawr a drws cefn y clochdy, lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac y peidia yr annuwiol â’i gyffro.”

“Ië, ié,” ebe y fam, “lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl, anw”—(ar hyn collodd y fam ei lliw—dechreuodd ei gwefusau grynu—ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd orffen ei dywediad).  Wrth weled hynny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn o deimlad, naill ai teimlad o serch cynnes at ei rieni, neu ynte teimlad o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw cymysgedig, dywedodd,—

“O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna.  Y maent wedi gwneyd eu gwaethaf i ni.  Na hidiwch mo honynt byth mwy.  Na ofnwch hwy ddim yn chwaneg.  Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorffwys.  Bydd yn sicr o fod allan o’u cyrraedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad gyntaf bore mawr y codi, a deuwn o hyd i’n hen gyfeillion ar darawiad llygad, a deuant hwythau hefyd o hyd i’w lle eu hun, a chesglir hwy at eu pobl, i dderbyn yn ol yr hyn a wnaethant yma.  Gwyddoch eu bod wedi creulawn lyncu i fyny yn barod eich £600 chwi.  Gwyddoch ein bod ni oll wedi gweithio yn galed iawn, haf a gaeaf, drwy wynt a gwlaw, ac oerni a gwres, fore a nawn a hwyr, er eu helw hwy, a’n bod heb ennill rhyngom oll yr un swllt i ni ein hunain.  Yr ydym wedi cyson dalu iddynt bob parch ac ufudd-dod yn ein gallu, ond tlawd iawn yw yr ad-dâl ydym yn gael am ein holl lafur a’n gofal.  Y mae gan Tom Thrift, aradrwr y Plas Hen, £88 o’i ennill yn awr yn y Savings Bank; ond nid oes gennyf fi, er fy mod dair blynedd yri hŷn na Tom, yr un geiniog wrth gefn yn ei chadw erbyn yr amser a ddaw.  Ond yr ydym ni yn gystal ein cyflwr a Robert Frugal druan.  Y mae ef yn awr newydd golli yr oll ag oedd wedi ennill.  Gwyddoch ei fod ef wedi bod yn fugail craff, ffyddlon, a gofalus, yn y Foelfawr am dros un mlynedd ar ddeg.  Llwyddodd ei feistr i gael ganddo adael ei gyflog y naill flwyddyn ar ol y llall yn ei law ef.  Addawodd y meistr ddeng waith drosodd y byddai Robert yn sicr o gael llog da am ei arian.  Yr oedd rhai yn ofni braidd er’s amryw fisoedd nad oedd ei feistr ddim yn gwneyd yn dda iawn yn y Foelfawr.  Yr oedd yn myned yn fwyfwy shy ar ddyddiau y talion; ond nid oedd neb o’r cymydogion yn dychmygu fod ei amgylchiadau mor ddrwg.  Yr oedd y steward yn ddyfnach yn secret ei helynt na neb arall, ac yn awr y mae y bailïaid newydd fod yn y Foelfawr, ac y maent wedi ysgubo ymaith i’r meistr tir bob peth oedd gan y tenant,—y stoc, a’r offer, a’r dodrefn, a’r ŷd, a’r gwair, a’r cig, a’r caws, a’r cyfan oll.  Nid oes yno ddim gwerth ceiniog wedi ei adael i Robert Frugal druan ar ol holl ludded a holl ofal ei fugeiliaeth.  Y mae Lord Quicksilver, y meistr tir, yn mynnu ac yn cael y ffyrling eithaf o’i rent arswydus ef; ond nid yw Robert, wedi ei holl lafur am un mlynedd ar ddeg i gynorthwyo y tenant i gasglu y rhent uchel hynny i’r lord, yn cael yr un ddimai o’i gyflog.  Ac y mae y gof hefyd ag oedd wedi gweithio am ddwy flynedd i’r Foelfawr yn methu cael dim am ei waith na’i haiarn; a dywedir yn hyf ac yn uchel drwy yr holl ardal fod baili uchaf Lord Quicksilver wedi prynnu deg o ychen mwyaf y Foelfawr am hanner eu gwerth, am fod y cymydogion yn ofni cynnyg yn ei erbyn, ac am fod y rhybudd am yr ocsiwn mor fyrr, ac ain na roddid dim coel i’r prynnwr.  Cyfraith yr ocsiwn wyllt sydyn yno oedd talu i lawr gyda bod y morthwyl i lawr; a chan fod y lord newydd dderbyn ei renti y diwrnod cyn hynny, nid oedd yno ddim arian parod i’w gael drwy yr holl gymydogaeth.  Yn wir y mae yn ddrwg iawn gennyf dros Humphrey y Gof, a thros Robert Frugul druan.  Cyfraith uffernol ydyw honno sy’n yspeilio y gweithiwr tlawd o’i ennill caled, ac o fwyd a dillad ei blant, er llenwi coffrau a seleri y gormeswyr goludog.  Peidiwch, da mam, ag edrych yn ddu fel yna arnaf am anturio siarad fel hyn am y gormeswyr goludog.  Gwn eich bod wedi ein dysgu o’r cryd i siarad yn wylaidd, ac i feddwl yn barchus am fawrion ein gwlad; ond y gwir ydyw y gwir, a dylid ei ddweyd ar amgylchiad fel hwn.  Ac nid oes dim ond rhyw bum mis, fel y gwyddoch, er pan ddarfu i’r hen Nansi Jones, ar ol bod yn dairymaid ragorol o fedrus ac o ffyddlon yn y Ddol Hir am dros ugain mlynedd, golli pob ceiniog a enillasai yn yr un modd, pan y mynnodd yr hen Lady Marigold o Blas y Dyffryn, bob dimai o’i rhent afresymol hi.  Beth ydyw pethau fel hyn ond lladrad noeth?  Ac yr oedd y drefn lunio cyfraith dros beth fel hyn, a’i darllen dair gwaith drosodd mewn dau lys seneddol, cyn gosod sel y goron wrthi, yn rogni mor gythreulig ag a ddyfeisiodd Turpin Wyld a’i gymdeithion erioed yn nyfnder y nos, yn seler dywyllafllys cyngor ei ogof.  Druan o’r hen Nansi Jones, wedi colli drwy hyn y cyfan o holl ennill ei bywyd, wedi colli drwy hyn y cyfan ydoedd wedi ofalus gynilo i’w chynnal yn ei hen ddyddiau.  Ydyw, mam, y mae peth fel hyn yn orthrymder anoddefadwy.  Y mae yn farbariaeth o’r fath greulonaf; ac y mae y rhai sydd yn gweinyddu y fath gyfraith yn lladron o’r dosbarth hyllaf; y maent yn lladron hyfion wyneb-haul: ac y maent yn digywilydd ymogoneddu yn nerth trais eu lladradaeth.  Gellwch chwi, fy nhad, ysgwyd pen, a gwenu a synnu bob yn ail, at hyfdra fy ymadroddion; ond nid wyf yn dywedyd dim ond y gwir.  Yr wyf yn dywedyd gwirionedd eglur, mewn geiriau eglur; ac y mae yn llawn bryd i rai ddweyd y gwir am bethau fel hyn yn y mannau mwyaf cyhoedd, ac yn y geiriau mwyaf eglur.  Y mae synwyr cyffredin y wlad wedi bod yn rhy wylaidd o lawer, a gonestrwydd cyffredin y wlad wedi bod yn rhy ddistaw o lawer yn nghylch pethau fel hyn.”

“Ond,” ebe’r tad a’r fam, eu dau ar unwaith, “er mwyn popeth, John anwyl, gad yna bobl fawrion y senedd a’r gyfraith; gad i ni ystyried beth sydd i ni wneyd yn awr?”

“Beth sydd i ni wneyd?” ebe John.  “Nid oes dim i ni ei wneyd ond MYNED I AMERICA.  Nid ydyw yn awr ddim hanner mor dreulfawr, na hanner mor dywyll, na hanner mor beryglus, i fyned yno ag ydoedd pan aeth fy nau ewythr, a’m dwy fodryb, yno ddeugain mlynedd yn ol; a gwyddoch yn dda fel y maent hwy a’u plant wedi llwyddo.  Gallwn gyhoeddi ocsiwn yn ddioed; ac ar ol talu i bawb bob ffryling o’u gofyn, bydd gennym dros ddwy ran o dair o’r cynnyrch tuag at ddechreu byw o newydd yn nyffryn bras y Missouri.  Trwy drugeredd, ni raid i ni ddim eto gladael i’r ocsiwn ar ein pethau fod dan fawd y bailïaid.  Cawn werthu pan y mynnom, ac fel y mynnom.  Codwch eich calon, fy anwyl dad a mam; y mae grennych chwech o blant cryfion fyddant yn ffyddlon i chwi hyd angeu.  Yr ydym oll gyda chwi yn awr, ac yn gwbl ryddion i ddyfod gyda chwi i America.  Yr ydym yn nyddiau goreu ein nerth, wedi ein hyfforddi i lafurio.  Y mae pob golwg a gobaith y gallwn wneyd yn dda yn America.  Codwch eich calonnau, cawn drigo yno eto yn llawen ac yn ddiogel bob un dan ei olewydden a’i ffigysbren ei hun; ac ni chaiff yr un o honoch chwi ddioddef dim eisieu tra y bydd dim modd gennym ni i’ch cynorthwyo.”

“Ond,” ebe y fam, a’i llygaid yn llawn, “a wyt ti ddim yn meddwl, John, y medrem ni gael ffarm oddeutu yma, dan ryw arglwydd tir arall, yn hen wlad anwyl ein genedigaeth?”

“Nac ellir yn wir, fy anwyl fam; y mae bron yn amhosibl cael cynnyg ar ffarm o unrhyw werth, dan unrhyw feistr tir ag sy’n deall y ffordd i gefnogi ei denantiaid.  Nid llawer o’r arglwyddi tir hynny sydd i’w cael yn ein gwlad ni yn awr; ac am y lleill oll, nid oes dim llawer o ddewis rhyngddynt.  Ni waeth ganddynt yn y byd pwy a wasgant, na pha faint a wasgant ar y sawl a gânt dan eu hawdurdod, am y cânt hwy y geiniog uchaf rywfodd.  Y mae llaweroedd o honynt, drwy eu dylni, a’u gwastraff, a’u gorthrymder, wedi bron andwyo eu hetifeddiaethau, ac wedi rhedeg i ddyled dros eu pennau; ac y maent, er gwasgu a chribddeilio, bron yn methu cael dau pen y llinyn yn nghyd.  Y mae eraill o honynt yn ddigon cyfoethog; ond nid oes ganddynt na chalon na challineb i ddim ond i wasgu a gor thrymu.  Dyna yr hen Lady V. o Garth Tafwys.  Y mae yn graig o arian, ond y mae yn ddraig o greulondeb tuag at ei thenantiaid.  Bu ganddi yn fy nghof i saith o denantiaid ar y ffarm fwyaf sydd ganddi; a darfu iddi bron andwyo eu teuluoedd.  A gwyddoch fod amryw o ffermydd goreu y General Malden yn awr ar ei law.  Bu amryw amaethwyr craffus, cryfion, yn eu golwg; ond y mae yr hen General, er ei fod yn colli cannoedd arnynt bob blwyddyn, yn rhy gyndyn i’w gosod am renti, ac ar amodau ag y gellir byw arnynt, a thalu am danynt.  A dyna ein hen gymydogion H. H., a B. W., a D. D. E., y rhai a gydnabyddir fel y ffarmwyr goreu yn yr holl wlad, wedi llwyr benderfynu rhoddi eu ffermydd i fyny Wyl Fair nesaf; ac y mae eu meistr hwy yn cael ei ystyried yn un lled deg a rhesymol: a rhywbeth tebyg ydyw bron yn mhobman.  Y gwir yw, dyrysodd rhwysg rhyfel dyddiau gogoniant yr hen Boni wŷr mawr ein gwlad; cawsant flas y pryd hynny ar renti uchel, ac ymchwyddasant i fyw yn wastraffus ar y rhenti hynny; ac y maent hyd heddyw heb ddysgu, neu yn hytrach heb geisio dysgu, cael pethau i’w lle.  Amserau caled iawn gafodd y ffarmwyr bron o hyd o hynny hyd heddyw.  Llai nag a feddyliech chwi o’r tenantiaid goreu sydd wedi gallu cael dim cyflog am eu llafur, chwaethach llog am eu heiddo.  Y mae miloedd obonynt wedi rhoddi nerth eu dyddiau goreu i’w meistradoedd am flynyddoedd lawer am ddim ond eu bwyd; ïe, y maent yn dlotach o lawer yn awr ar ol eu holl ofal, a’u holl lafur, nag oeddynt ddeng mlynedd at hugain yn ol.  Y mae yr arglwyddi tiroedd yn eu diraddio ac yn eu trin fel caethion.  Y maent yn meddwl ei bod yn fraint iddynt lafurio am ddim er eu cynnal hwy; ac y maent yn cydymgyngreirio i gadw i fyny renti hen ddyddiau Boni er cynnal i fyny rwysg a rhysedd gwallgofrwydd y dyddiau hynny.  Goreu i ni, yn wir, po gyntaf yr awn i’r America.  Nid oes dim golwg am ddyddiau gwell yma.  Yr ydych chwi yn lled adnabyddus o amgylchiadau y rhan fwyaf o ffarmwyr yr ardaloedd hyn.  Yr wyf fi yn barnu, yn ol pob hanes, fod y serfs yn Russia, er caethed ydynt, wedi ennill mwy yn y deugain mlynedd diweddaf nag a enillodd y rhan fwyaf o denantiaid ucheldiroedd Cymru.  Onid ydych chwi wedi cyfaddef lawer gwaith mai gwanychu yn raddol y maent o hyd, er eu holl ymdrech, er’s dros ddeunaw mlynedd ar hugain.  Os ydyw gwersi hanesion byrion fy hen lyfr ysgol i yn gywir, y maent yn trin tenantiaid y wlad yma yn awr yn yr un modd yn union ag y dywedir fod barwniaid Russia yn trin eu caeth-denantiaid.  Y mae llawer o etifeddiaethau llydain yn cael eu trin yng Nghymru yn awr yn yr un dull yn union ag yr oedd arglwyddi gloddestgar Rhufain yn trin eu hetifeddiaethau yn mlynyddoedd olaf adfeiliad eu hymerodraeth.  Gwyddoch yn burion fel y mae y meistri tiroedd a’u stewardiaid wedi bod yn anialeiddio yr Iwerddon drwy y blynyddoedd, nes ydynt o’r diwedd wedi torri eu tenantiaid, ac wedi torri eu hunain hefyd, ac wedi achosi tlodi mawr drwy rannau helaeth o’r wlad werdd honno.  Y mae rhai parthau o Gymru wedi cael eu gwasgu i gyflwr lled Iwerddonaidd.  Y mae y ffyrdd a’r adeiladau yn warth i’r oes.  Y mae yn drwm iawn fod arglwyddi tiroedd mor ddiwladgarwch, mor ddiddyniolaeth, ac mor gibddall i’w lles eu hunain.  Yn lle ymhyfrydu yn ffyniant ac yn nedwyddwch eu tenantiaid, y maent yn llawenychu yn ysbryd ac yn moesau gwasaidd eu caethiwed a’u tlodi.  Gwyddoch yn eithaf da ein bod ni bob amser wedi byw mor gynnil ag oedd bosibl i ni.  Gwnaeth hen gyfrwy fy nhad cu y tro i ni rhyngom oll tan y Gwanwyn diweddaf, pan y cawsom gyfrwy newydd cryf a rhadlawn; ac yr ydych yn cofio yn burion ddanodion y mân-squires spardynawg, meibion y steward, pan yr aeth fy mrawd ieuangaf i ffair Galanmai ar gefn y cyfrwy newydd am y tro cyntaf.  Rhaid i bob cyfrwy gael ei daith gyntaf rywbryd.  Yr oedd fy mrawd, ar ebol du a’r cyfrwy newydd, yn edrych yn bur dda y bore hwnnw.  Gwn nad anghofiwch byth mo edrychiad na geiriati ladies ieuainc drawing-room y steward pan yr aeth fy chwaer dal wridog Betsy, dair blynedd yn ol, heibio i’w ffenestr fawr yn ei shawl wlanen newydd i edrych am ei chyfnitheroedd o’r Dyffryn: ac yr ydys yn dweyd fod yr hen ffarmwr cloff diwyd Edward Sparing i lawr yn llyfr private y steward am ei fod wedi prynnu dog-cart gref dda gan ei gymydog cywrain Wheelwright Davies i’w gario ef a’i ferch wylaidd lân lanwaith Elen i farchnad yr ŷd a’r ymenyn.  Cewch chwi weled na bydd neb yn fuan i drin y tir yn yr hen wlad lethedig yma ond personiaid a beggeriaid, a mân-squires a demireps, ac uwch-stewardiaid ac îs-stewardiaid, a chlepgwn a thurncoats, a gamekeepers a bailïaid; a ffarmio ardderchog arswydus fydd yn bod yma y pryd hynny.  Caiff arglwyddi tiroedd weled eu camgymeriad, a theimlo eu colled y pryd hynny, ond bydd yn rhy ddiweddar iddynt edifarhau.  Ni bydd dim gobaith iddynt hwy weled diwygiad cyn eu marw.  Dichon y caiff y tô ar ol y nesaf weled dyddiau gwell yn hen wlad wyllt Gwalia.”

“Ond,” ebe’r tad, “a fyddai ddim yn well i ni ymfudo i ryw dalaeth Brydeinisg?  Dywedir fod yn awyr iachus deheubarth Affrica filiynau ar filiynau o gyfeiriau o wastad-dir bras ffrwythlawn heb neb i’w trin.  A fyddai ddim yn well i ni geisio prynnu ffarm fawr dda mewn lle felly?”

“Yr wyf yn meddwl, fy nhad, na byddai.  Yr wyf yn credu y buasai yn hawdd iawn prynnu ffermydd ardderchog yno pe buasid o’r dechreu yn ymddwyn yn agos i deg a boneddigaidd tuag at y cynfrodorion.  Ond yn awr y mae Syr Hero Harri Aliwal a’i gydswyddwyr mawrfrydig a gwronaidd, drwy gyfarwyddyd a than awdurdod swyddfa llys uchel y taleithiau tramor, wedi poeni a dirmygu a gormesu cynfrodorion y parthau dymunol hynny nes eu gyrru yn wallgof gynddeiriog; ac yr ydys yn benderfynol i’w llwyr ddiwreiddio o’r tir, a’u hymlid i ddinistr bythol cyn gynted ag y byddo bosibl; ac y mae swyddwyr Prydain wedi chwythu un o wageni mwyaf y brodorion yn yfflon gyrbibion er dangos fod ganddynt ddigon o bowdr i ddryllio pob peth yno o’u blaen.”

“Wel,” ebe’r tad eilwaith, “pe bai ni yn gwneyd i fyny ein meddyliau i fyned i America, a fyddai ddim yn well i ni aros ychydig i edrych beth a ddaw?”

“Na, yn wir, yr wyf yn meddwl mai colled fyddai hynny; ac y byddai yn llawer gwell i ni baratoi i fyned ar unwaith.  Y mae yn wir y gallem ni droi yn union y weirglodd fawr dan y tŷ, a’r borfa hir dan y ’sgubor bellaf, i wenith; ond gwnai hynny lawer mwy o ddrwg i’r tenant newydd nag a wnai o les i ni; a byddai yn well i ni ymadael heb fod dim lle ganddynt i ddweyd ein bod ni wedi cymeryd mantais oddiwrth unrhyw gytundeb llac penagored i wneyd dim tebyg i dro bach felly.  Yr ydym ni wedi eu gwasanaethu am dymor hir yn onest ac yn anrhydeddus, ac ni hoffwn mewn un modd i’r un tro bach felly lychwino ein hymddygiad wrth ymadael â hwy.”

“Yr wyt yn hollol right, John,” ebe y tad; “ni fynnwn innau er dim redeg y ffarm, na’i drygu mewn un modd, fel ag i golledu ein dilynwr, pwy bynag fyddo,—oblegid” * * * * *

Ar ganol yr ymddiddan yma, daeth Foulk Edward, yr under-steward, i’r tŷ i ofyn i John a’i frodyr ddyfod gydag ef yn union deg a’u harfau cau a’u menyg i drwsio gwrych y nursery.

* * * * *

Ymhen rhyw dair wythnos ar ol hyn, pan ydoedd Squire Speedwell yn gyrru yn lled fore ar draws Ffridd Hir Cihaul Uchaf, goddiweddwyd ef gan ruthr trwm o eirlaw, a charlamodd ei oreu am gysgod at ysgubor uchaf Ffarmwr Careful.  Yr oedd y ffarmwr yn digwydd bod yno y pryd hynny yn trwsio ei ôg fawr, ag oedd wedi cael ei thorri wrth gael ei llusgo yn erbyn dannedd, neu ar draws asennau, y graig ddu oedd yn ngbanol ei faes gwenith uchaf.  Brysiodd y ffarmwr yn bur garedig a boneddigaidd i gael y Squire a’i farch i ddiddosfan; ac wrth ddiolch am ei garedigrwydd, sylwodd y Squire fod mwy na thair blynedd er pan oedd ef wedi bod y ffordd honno o’r blaen; fod yn hoff iawn ganddo weled, wrth ddyfod i fyny y Ffridd, fel yr oedd hen ffarm Cilhaul Uchaf wedi cael ei threfnu a’i gwella yn y blynyddoedd diweddaf, a’i fod yn gobeithio y cai y tenant oes hir i fwynhau tâl am ei lafur.  Cydnabyddodd John Careful, mewn llais trist isel, ei fod ef a’i deulu wedi myned i lawer iawn o lafur ac o draul er gwella y ffarm, ond eu bod yn colli y cyfan,—ei fod newydd dderbyn notice i ymadael.

“Nac ydych, ’does bosibl,” ebe’r Squire yn bur sydyn.

“Ydym yn wir,” meddai y tenant.   “A ydyw eich meistr tir yn gwybod eich bod yn ymadael?”

“Yn wir, syr, nid wyf yn gwybod hynny.”  “Wel, yr wyf fi yn disgwyl cael gweled eich meistr tir yfory, neu drenydd, ac mi siaradaf ag ef yn nghylch y mater.”

“Yr wyf yn rhwymedig ac yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr; ond yr wyf yn ofni na byddai hynny o ddim lles i ni nac i neb arall.  Y mae yn awr yn rhy ddiweddar.  Gwasanaethodd y steward fi a’r notice â’i law ei hun, a hynny mewn dull pur benderfynol.  Y mae fy meibion yn teimlo ein bod wedi cael cam creulon, ac y maent yn gofidio yn ddwys o’r herwydd; ac y maent yn hollol benderfynol i fyned i America, ac y maent yn daer iawn ar i’w rhieni fyned gyda hwy.”

“Yr anwyl mawr, gwarchod ni, gobeithio nad yw Mrs. Careful a chwithau ddim yn meddwl myned dros y môr i’r America yn eich oed chwi.”

“Ydym, yn wir, syr, ac ni awn hefyd os bydd ein plant yn myned.”

“Na, na, Mr. Careful bach, ail ystyriwch y peth—gwyliwch rhag y fath helbul, a pherswadiwch eich meibion i beidio gadael gwlad eu genedigaeth.  Goddefwch i mi gael cyfle i siarad â’ch meistr tir yn nghylch y peth.  Caf adeg yn bur fuan.  Aroswch chwi—; gadewch i ni weled—; gwrandewch yn awr—.  Y mae eich meistr tir i fod yn Hunt Fawr C * * * yr wythnos nesaf.  Deuwch yno; a byddwch yn sicr o ddyfod yno; a deuwch yno yn fore: mynnaf fi gyfle i chwi gael ei weled a siarad ag ef, a chawn glywed beth a ddywed.”

“Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr, am eich ewyllys da, a’ch cyngor caredig.  Yr wyf yn teimlo yn bur isel a hiraethlawn wrth feddwl am fyned o fy hen gartref a’m hen wlad, ond yr wyf yn ofni mai felly y bydd.  Y mae y plant yn dynn iawn am fyned, gan ein bod wedi cael y fath gam a’r fath amharch—y mae yn rhy bell i feddwl am wneyd dim pen yn awr.  O’r braidd y gwrandawai y plant yn awr ar unrhyw gyngiad i aros yma.  Yr ydys wedi ymddwyn tuag atom yn groes i bob cyfiawnder.  Y mae yn amlwg fod y steward a’i fryd yn sefydlog ar gael ein lle; ac y mae ef a’i denlu yn rhai pur gwmpasog a chyfrwys, ac yn foddlon i wneuthur pob peth et cael eu cynllun i ben.”

“Wel, wel, beth bynnag am hynny, gofalwch chwi am fod wrth Hotel C * * * erbyn hanner awr wedi wyth fore dydd yr Hunt.  Y mae rhuthr y gawod yn awr drosodd; mi âf fi, os gwelwch yn dda: yr wyf wedi addaw cyfarfod tri o’m cyfeillion ar ben Bryn Grug y Grouse am hanner awr wedi deg.”

Dydd yr Hunt a ddaeth; ac yr oedd Ffarmwr Careful wrth yr Hotel, yn ol ei air, erbyn y funud benodedig: ac yr oedd yn edrych yn bur dda ar ol cerdded yno ar ei draed.  Ymhen pum munud ar ol iddo gyrraedd yno, gwelai Lord Protection, ei feistr tir, yn myned heibio yn mraich Squire Speedwell.  Y funud y canfu y Squire Mr. Careful yno, cododd ei fys arno i ddyfod yn mlaen, a dywedodd,—

“O my lord, dyma eich hen denant John Careful, yr hwn y bum yn crybwyll wrthych am dano y nos o’r blaen.”

“O, ho, bore da, Mr. Careful,” ebe Lord Protection; “gwn oddiwrth fy llyftau, ac oddiwrth yr hyn wyf yn glywed gan bawb, eich bod chwi yn un o’r tenantiaid goreu a mwyaf ymdrechgar a feddaf.  Y mae yn wir yn ddrwg iawn gennyf eich bod yn myned i ymadael.  Derbyniais air yn ddiweddar oddiwrth fy steward yn hysbysu eich bod yn cwyno ar y rhent, ac yn enwedig ar y codiad diweddaf.  A ydyw y rhent mewn gwirionedd yn rhy uchel, Mr. Careful?  Nis mynnwn er dim i’ch ffarm chwi fod yn rhy ddrud i chwi allu talu am dani.  Nid wyf yn gallu cofio yn awr yn gywir am ei hansawdd.  Nid wyf erioed wedi cael hamdden a chyfle i edrych yn fanwl dros Cilhaul Uchaf.  Ydych chwi yn barnu yn gydwybodol ei bod hi yn rhy ddrud?”

“Ydyw yn wir, my lord, y mae yn rhy ddrud.  Yr wyf fi a’m teulu wedi gwneuthur prawf teg o hrnny.  Ffarm wlyb, oer, amlwg, lechweddog, lawn o gerryg, ydyw—yn gofyn traul a llafur anghyffredin i’w thrin.  Darfu i ni, yn y blynyddoedd diweddaf, wario llawer mewn gwelliantau.  Yr oedd y codiad yn un trwm afresymol, ac yn un hynod o anamserol; a darfu i briswyr eraill gymeryd achlysur a mantais oddiwrth brisiad eich goruchwyliwr chwi i wneuthur niwaid mawr i ni.  Yr ydym, yn wir, my lord, wedi cael cam cywilyddus; a darfu i mi gwyno wrth eich steward, a dywedyd nad oedd dim modd i mi dalu am y ffarm yn ol y rhent a’r trethoedd a’r prisiau presennol; a rhoddodd y steward i mi notice i ymadael, ac awgrymodd y byddai yn ddigon hawdd iddo osod y ffarm y diwrnod a fynno.”

“Ac, my lord,” ebe Squire Speedwell, yn bur sydyn, “y mae John Careful a’i deulu yn penderfynu myned i America.  Byddai yn resyn yn wir, my lord, iddynt ymadael ac ymfudo felly.  Gadael eich estate chwi.  Gadael hen aelwyd eu tadau; a gadael gwlad hoff eu genedigaeth.  Tad cu John oedd un o’r dynion cryfion fu’n cadeirio eich tad cu chwi drwy y ddinas yma yn amser yr election fawr; a bu ei dad ef yn cario eich tad chwi ar achlysur y gyffelyb fuddugoliaeth ar ol hynny; ac y mae ganddo yn awr dri o feibion talion gwridog cryfion, nad ellid byth gael rhai mwy noble i gario eich mab chwi yn yr election nesaf.  Da chwi, my lord, er mwyn pob peth, gwnewch rywbeth o’u tu yn yr amgylchiad a’r bwlch yma.  Yn wir nid yw ddim yn amser yn awr i daflu ymaith y fath hen denant ymdrechgar a gofalus.”

“Wel, mi wnaf yn sicr.  Mynnaf siarad â’r steward ar y mater yn yr Audit nesaf.  Yr wyf fi yn credu fod fy stewardiaid i yn ceisio gwneyd eu goreu.  Nid wyf yn meddwl nad allant hwy gamgymeryd fel pobl eraill; ond yr wyf yn credu eu bod yn bryderus ac yn awyddus ac yn llafurus ac yn ddiwyd ac yn ystyriol i wneyd yr oll ag a allant yn y modd goreu; ac nid wyf yn hoffi ymyrryd â’u trefniadau; ond yn wir yr wyf yn dwys deimlo dros fy nhenantiaid tlodion ymdrechgar yn y blynyddoedd isel hyn.  Y mae dyddiau treth yr ŷd, dyddiau deddfau amddiffyniad eu marchnad hwy, dyddiau prisiau adeg fyw y rhyfeloedd, wedi hen fyned heibio.  Y mae’n debyg gennyf ei bod yn bur ddrwg er’s tro yn awr ar denantiaid; ac yr wyf yn ofni yn wir, John Careful, eich bod chwi wedi cael eich gwasgu, a gobeithio yr wyf y gwelaf fy ffordd yn oleu ac yn rhydd i mi eich cynorthwyo chwi yn y bwlch yma.  Ond dywedwch i mi, John, a ydych chwi ddim yn meddwl y gallai rhai o’r tenantiaid wneyd mwy o’u ffermydd nag y maent yn ei wneyd?”

“Ydwyf, my lord, yr wyf yn meddwl y gallent, ond iddynt gael cynorthwy a chefnogiad ac addysg; ond os rhoddwch chwi bedwar can pwys ar ysgwydd dyn nad all gario ond tri chan pwys, yr ydych yn sicr o’i wneyd bob yn dipyn yn anewyllysgar ac yn analluog i gario dau gan pwys.  Os gorfodwch chwi ddyn i redeg triugain milldir y dydd, pan na ddylai redeg ond deugain byddwch yn sicr cyn hir o’i redeg i’r pen.  Y mae llawer o ffarmwyr yn awr wedi eu gwasgu mor isel fel nad oes ganddynt ddim calon na nerth i gynnyg at orchwylion ag y buasent dan amgylchiadau mwy cefnog yn sicr o’u cyflawni.  Peth eithaf priodol—ïe, peth da ragorol, my lord, fyddai i’ch stewardiaid trymion llymion chwi ysbarduno tenantiaid a gweithwyr cysglyd, dioglyd, rhodianllyd, clebrog; ac yn wir yr wyf yn hoffi o’m calon gweled rhai swrth a segur felly yn ei chael hi hyd adref; ond ar ol ei rhoi hi yn ddiarbed i’r rhai afler a marwaidd, carwn yn fawr weled eich steward mawr chwi, yn union ar ol derbyn y rhenti, yn galw y rhai diwyd ac ymdrechgar o’i ddeutu i square yr Hotel, a charwn ei weled yn eu canol, fel pregethwr ’Senters, yn dringo carreg yr Horse-block, i areithio er canmol ac er cefnogi eu gofal a’u llafur.  Carwn ei weled yn sefyll yn syth ar ben hen garreg yr Horse-block; ac ar ol rhyddhau a glanhau ei wddf, a thynnu ei gadach allan i sychu ei wyneb a’i wefus, hoffwn ei weled yn estyn ei law am osteg a gwrandawiad, a’i glywed yn areithio yn debyg i hyn:—

“‘Fy hoff gyfeillion,—Yr wyf yn eich galw yn gyfeillion, oblegid yr wyf fi yn gyfaill i chwi, ac yr wyf yn dymuno parhau yn gyfaill i chwi; ac y mae o bwys mawr i ni fod yn gyfeillion.  Y mae eich meistr tir urddasol a haelfrydig wedi erchi i mi hysbysu i chwi ei fod ef yn dymuno eich ffyniant a’ch cysur—ei fod yn dymuno i chwi wneyd yn dda, ac edrych yn dda—ei fod yn dymuno i chwi gadw offer hwsmonaeth da, a stoc dda; a’i fod am i chwi gael pantry llawn a phwrs llawn, a’i fod am i chwi allu sparin arian bob blwyddyn.  Y mae yn beth hollol deg a gweddus i chwi gael rhywfaint o gyflog am eich gofal a’ch lludded, a rhywfaint o log am yr arian sydd gennych yn nodrefniad a stociad eich ffermydd; ond ar yr amserau drwg a dyryslyd hyn, dylech fod yn foddlon ar dalion cymedrol, eto dylai pob un o honoch gynilo ychydig bob blwyddyn, os na bydd rhyw dreuliau teuluaidd anarferol yn lluddias hynny.  Dylech ymdrechu cynilo ychydig bob blwyddyn erbyn angen a methiant y dyddiau a ddaw.  Ewyllys arbennig eich meistr tir ydyw i chwi gael pob anogaeth a chefnogiad.  Byddwch yn ddiwyd a gofalus.  Gochelwch bob difrod a diogi.  Astudiwch eich cynlluniau yn fanylaidd.  Cyn dechreu ar unrhyw orchwyl, eisteddwch yn gyntaf i fwrw y draul.  Cedwch eich cyfrifon yn llawn ac yn eglur.  Ymgedwch gartref hyd y gellwch.  Telwch eich ffordd yn gyflawn yn mhob man wrth fyned yn mlaen.  Gochelwch ddechreu rhedeg i ddyled.  Na phrynnwch byth ar y coel.  Gochelwch arfer benthyca arian na dim arall.  Cedwch eich buarthau yn gryno, eich cloddiau yn lân, eich cwterydd yn agored, eich gwrychoedd yn gyfain, eich ffyrdd yn gelyd, eich llwybrau yn sychion, eich tô yn ddiddos, a’ch holl adeiladau mewn trwsiad cyfaddas.  Colled i chwi, yn gystal ag i’ch meistr, fyddai i chwi beidio gwneyd hynny.  Gwn am ddwy neu dair o ysguboriau lle y cafodd tunelli o wair ei ddrygu y gaeaf diweddaf am fod y tô yn gollwng defni.  Naw mlynedd yn ol, darfu i’ch arglwydd tir fyned i draul fawr i wneuthur ffordd newydd drwy Glyn y Bedw Gleision.  Bu bron iawn i mi gorsio mewn mwy nag un man ar y ffordd honno yn mis Mawrth diweddaf.  Nid wyf yn meddwl i neb drwsio dim arni, nac ar ei phyllau, nac ar ei ffosydd, nac ar ei routs, nac ar y cloddiau o’i hamgylch, er y dydd y cafodd ei gorffen.  Nis gwn yn sicr ar bwy y mae bai mwyaf yr esgeulusdod, pa un ai ar arolygwyr ffyrdd y dre ddegwm ai ar denantiaid yr ardal; ond yr wyf yn sicr pe buasai eich meistr tir yn dyfod ar hyd-ddi yn y Gwanwyn diweddaf, a phe buasai yn gweled ôl teyrnasiad gwlawogydd naw gaeaf ar bob rhan o honi, y buasai yn gwylltio gymaint fel y buasai yn ysgubo tenantiaid yr ardal honno i ffwrdd bob un oddiar ei etifeddiaeth.  A gwelais hefyd wrychoedd mawr ceimion cysgodfawr canghenog, heb gael eu torri er dyddiau y Frenhines Ann, yn lledu eu gwraidd a’u brigau ar draws ac o amgylch rhai o’r dolydd mwyaf cysgodol yn yr holl wlad.  Peidiwch er dim ag aredig mwy o dir nag a fedrwch wrteithio.  Bydd hynny yn sicr o achosi colled.  Yr wyf yn meddwl y gwnai gwisg go dda yn awr ac eilwaith o bridd a chalch, neu o bridd a thail, i’ch porfeydd a’ch gweirgloddiau dalu yn well O lawer yn y wlad oer fas wleb anwastad yma nag i chwi lafurio i droi gormod.  Gwelais y dydd o’r blaen, wrth fyned ar draws gyda’r cwn, hen domenydd llydain o dywyrch ffosydd ar ganol y gweirgloddiau gwair, yn y mannau goreu arnynt; ac yr oedd argoelion digon eglur fod y tomennau hynny wedi bod yno ar ffordd y bladur er’s degau o flynyddoedd.  A gwelais hefyd y cloddiau a’r ffosydd oddeutu amryw gaeau gwlybion wedi llawn gau, a’r mân-ffrydiau sly yn ymlithro yn ddistaw drwy’r dydd a thrwy’r nos o’r clawdd i’r cae i andwyo y tir.  Yr oeddwn bron gwylltio wrth weled hynny, eisiau fod y cloddiau a’r ffosydd yn cael eu hagor, a’r tywyrch yn cael eu cymysgu â’r hen domenydd gorsychion, a’r cyfan yn ol hynny yn cael eu cymysgu â chalch neu â thail i’w daenu dros y caeau.  Gellid dyblu cynnyrch rhosydd a chaeau gwlybion yn y dull hynny.  Y mae rhai yn meddwl y gellid gwneyd defnydd da o glai drwy ei olosgi.  Er mwyn pob peth ymdrechwch ddyfeisio rhyw foddion er atal egriad, a llifiad ymaith yr ammonia o’ch tomennydd: neu, mewn geiriau eraill, er atal colli nodd y rhinwedd o’r tail, yr hyn yw ei nerth fel gwrtaith.  Gwelais ddoe, wrth fyned heibio, amryw domennydd yn bur wasgarog, ar dapiau moelion, llechweddog, digysgod, heb fod yn agos mor gryno ac mor amddiffynedig ag y buasai yn hawdd iddynt fod.  Yr oedd holl domennydd yr hen Farmwr Clout ar lethr craig, ar fin y nant; ac yr oedd eu brasder goreu yn llifo ymaith i nychu y brithylliaid oedd yn y llyn du oddidanynt: ac yr oedd pistyll trystfawr Ffarmwr Careless yn gwyllt-ffrydio ar draws buarth y tŷ, a thrwy fuarth yr ysgubor, a thros ochr yr ydlan, ac i lawr dros y ffordd i’r afon.  Y mae y fferyllwyr craffaf yn dysgu i ni fod llawer iawn o nerth gwrteithiau cartrefol ein gwlad ni yn cael ei golli trwy fod y tomennydd yn cael eu gadael yn agored i’r tês ac i’r tymhestloedd.  Dyfal astudiwch bob cynllun a osodir ger eich bron er ysgoi y colledion hynny.  Y mae yr hen dai, a’r hen ysguboriau, ar lawer tyddyn wedi cael eu hadeiladu yn y mannau mwyaf anfanteisiol.  Nid eich bai chwi oedd hynny.  Gwn fod lle a dull adeiladau rhai ffermydd go fychain yn achosi colled o dros ugain punt yn y flwyddyn.  Er pob peth astudiwch a chwiliwch am ryw foddion er atal i rinwedd eich tomennydd gael ei sugno gan y tês i’r wybren, na chael ei olchi gan y tywydd i’r môr.  Gwn am amryw hen ffarmwyr a wnaethant lawer o arian yn eu dydd, ac nid wyf yn gwybod eu bod yn enwog am ddim ond am ruglo y buarthau, a chludo y cyfan i’r domen er ei mwyhau, ac am ei chadw yn gryno er ei hamddiffyn.  Gwnewch eich goreu ymhob modd i frashau a chynyddu eich gwrtaith cartrefol.  Cedwch oriau rheolaidd, yn enwedig wrth godi ac wrth noswylio, a chyda’ch prydiau bwyd.  Dysgwch eich gweinidogion i fod yn ddiwyd, ac yn gynnil, ac yn onest.  Erfyniwch arnynt er pob peth i fod yn eirwir, ac yn ffyddlon yn eich absenoldeb.  Gwnewch eich goreu ar i bawb drwy’r ardal gael digon o waith.  Peth ofnadwy ydyw meddwl am fechgyn neu ferched ieuainc mawrion cryfion iachus yn ymsegura mewn syrthni heb ddim i’w wneyd.  Y mae llaweroedd drwy seguryd felly wedi cael eu handwyo am byth.  Rhoddwch gymaint o ysgol ag a fedrwch i’ch plant.  Ni fynnwn i er dim, ac yr wyf yn sicr nas mynnai eich meistr tir er dim, eich rhwymo na’ch gorfodi mewn un modd gyda golwg ar eich Sabbathau.  Y mae yr addoli i fod yn hollol yn ol barn eich deall a theimlad eich calon eich hun; ond goddefwch i mi ddweyd na welais i ddim daioni yn dyfod erioed o’r bobl sy’n treulio eu Sabbathau i gysgu a dylyfu gên a rhodianna a hel cleber.  Os byddwch chwi am ryw welliantau ag y dylai eich meistr tir eich cynorthwyo i’w gyflawni, ystyriwch eich cynlluniati gyda manylrwydd, a gadewch imi wybod eich cynygion.  Yr oedd yn dda iawn gennyf eich gweled yma mor brydlawn bore heddyw.  Y mae eich cinio yn awr yn barod; ac y mae gennyf i’w hysbysu i chwi y bydd eich arglwydd tir caredig yn eich dysgnyl oll i giniawa gydag ef yn y Castell Wyl Fair nesaf.  Bydd yno y pryd hynny amryw foneddigion profiadol dysgedig i esbonio i chwi ryw egwyddorion newyddion gyda golwg ar ansawdd gwahanol briddoedd, a gwahanol wrteithiau, a gwahanol lysiau, yn nghydag amryw bethau eraill cysylltiedig â llwyddiant amaethyddiaeth.  Gadewch i ni fyned oddiyma yn awr i’r ystafell ginio.  Ni gawn ar ol cinio yfed iechyd da ein brenhines a’ch meistr tir; ac yna ymwasgarwn bob un i’w gartref.”

“Aros, John, aros; yr wyt ti yn awr yn pregethu dyledswydd i dy uwchradd, a hynny mewn dull pur gyfrwys.  Yr wyf wrth dy wrando wedi colli adeg i weled cychwyniad y llwynog; yr wyf eisus yn rhy ddiweddar, ac mi gollaf hynny o sport.”

“Yr wyf yn deisyf eich pardwn, my lord; yr oeddwn yn rhy ddifeddwl wrth gymeryd eich amser chwi felly; ond yn wir, ni buaswn i byth yn dweyd cymaint oni buasai eich bod chwi yn gwenu mor isel ac mor garedig wrth wrando.  Mi âf fi adref gynted ag y gallaf bellach.”

“Aros, John, aros—paid a myned yn union eto.  Yr wyf fi yn hoffi clywed hen denant fel tydi yn dweyd ei feddwl a’i brofidd yn rhydd ac yn eglur.  Ychydig iawn yn wir wyf fi yn hidio yn awr am golli rhyw dipyn o sport ac o lafur yr hela llwynog.  Nid oes gennyf fi yn awr ddim cymaint o flys at bethau felly ag a fu gennyf unwaith; ac yn wir yr wyf yn ofni ein bod ni ar ddyddiau hela fel hyn yn gwneyd cryn niwaid i borfeydd a gwrychoedd a chaeau ŷd ein tenantiaid.  Y mae ein mintai heddyw rhwng cwn a meirch a dynion yn un bur fawr.  Yr wyf yn ofni fod ein blys ni am sport yn costio yn lled ddrud iddynt hwy.  Yr ydym, yn gyntaf, yn diygu eu meusydd hwy ar ddyddiau ein helwriaeth.  Yn ail, eu gwellt a’u hegin a’u hŷd hwy sydd yn porthi ac yn pesgi ein cwningod a’n hysgyfarnogod a’n hadar tewion ni.  Yn drydydd, y maent hwy yn lled fynych yn gorfod lletya a byrddio ein milgwn a’n bytheuaid ieuainc ni, pan y bydd tymor sport yr hela drosodd.  Ac yn bedwerydd, os digwydd iddynt hwy rywdro, yn rhyw ddull, ddyfod ar draws petrisen, neu gyffologyn, neu gyw pheasant, neu gwningen, neu ysgyfarnog, dyna, hwy ar unwaith wedi ymddyrysu yn rhwydau ein deddfau helwfiaeth ni; ac wrth ymwingo i geisio dianc yn rhydd, y maent y rhan amlaf yn colli eu tymherau, ac wedi hynny yn colli llywodraeth eu tafodau, ac bob yn dipyn ar ol hynny yn colli eu ffermydd.  Atolwg, John, a fedri di ddweyd i mi pa faint o gost i denant ydyw cadw bytheuad neu filgi ieuanc?”

“Na fedraf, my lord, ddim dweyd hynny yn fanwl.  Byddai yn drueni creulawn hanner newynu ci ieuanc.  Os caiff ei gadw yn dda, costia gymaint a chadw mochyn; ac y mae y gofal o gadw ci ieuanc yn rhywbeth.  Y mae helgi ieuanc cryf gwresog weithiau yn bur chwareus, braidd yn rhy chwareus ar adeg yr ŵyn bach; ac y mae yn anhawdd iawn gennyf feddwl am gi ieuanc wrth ei gadwyn ddydd a nos, ac edrych arno yn neidio o’m deutu gan ymbil arnaf â’i wên, ac â’i ddeigryn, ac â’i lygaid, ac â’i ochenaid, am ei ollwng yn rhydd o’i gadwyn i gael rhoddi mymryn bach o dro gyda mi drwy y coed a’r caeau.”

“Ond, John, wyt ti yn golygu fod ein game ni, sef ein hadar a’n hysgyfarnogod ni, yn peri colled i’r tenantiaid?”

“Byddai yn well gennyf, my lord, beidio ateb y gofyniad yna.”

“Yn enw dyn, John, pam?”

“Am nad yw y tenant byth ar ei ennill wrthsiarad ar bwnc fel yna.”

“Twt, twt, John; yr oeddwn i wedi clywed dy fod di bob amser yn barod i ddweyd dy feddwl yn eglur a didderbynwyneb ar bob pwnc.  Y mae fy ngofyniad i yn un digon dealladwy—A ydyw ein hysgyfarnogod a’n hadar ni yn achosi colled i’n tenantiaid?”

“Wel, ydynt, my lord, y maent; y maent yn sicr.  Y mae y tenant yn cael rhy fach yny dyddiau yma am besgi beef a mutton; ac nid yw yn cael dim am besgi cwningod ac ysgyfarnogod, ond rhyw ychydig o wenwyn ac o ddrwg ewyllys yn awr a phryd arall.  Ni chefais i ddim cymaint o golled oddiwrth game ag a gafodd rhai tenantiaid; ond mi wn i am rai mannau lle y mae game yn cael brasder y porfeydd, a defnydd bara y tylwyth.  Dyna’r gwir, my lord; ond yr wyf yn ofni fy mod yn eich digio wrth ei ddweyd.”

“Nac wyt yn wir, John, nac wyt yn wir.  Paid a meddwl fy mod wedi tramgwyddo o herwydd yr hyn a ddywedaist heddyw.  Da iawn gennyf fy mod wedi cael cyfle i glywed dy farn a’th deimlad am y pethau yma.  Byddai yn burion peth i ni gael adegau mynychach i glywed ein tenantiaid yn adrodd tipyn o’u helyntion; ac yn wir yr wyf fi bron iawn a blino ar bryder a rhwysg a rhodres bywyd uchel cyhoeddus, a rhyw ffurf-ddefodau swyddogol diddarfod.  Yr wyf yn bwriadu edrych i mewn dipyn manylach rhagllaw i amgylchiadau fy etifeddiaeth, ac i gyfleusderau a chysuron y rhai sydd yn byw ac yn llafurio danaf.  Y mae rhyw ddyledswyddau yn perthyn i bob meddiannau.  Y mae rhyw rwymedigaethau yn nglŷn â phob eiddo; ac yn wir yr wyf fi am wneuthur mwy o hyn allan tuag at gynorthwyo fy nhenantiaid ymdrechgar.  Yr wyf yn ofni yn fawr; ac yn wir, yr wyf yn gorfod hollol gredu ein bod ni, arglwyddi tiroedd, wedi bod yn llawer rhy esgeulus o ddyledswyddau blaenaf cylchoedd pwysig ein sefyllfa gymdeithasol; a bod hynny wedi bod yn golled fawr i ni ein hunain, yn gystal ag i eraill.  Y mae arglwyddi y gweithiau haearn yn gwybod maint a nerth a thraul eu ffwrneisiau.  Y mae arglwyddi y mwnau yn gwybod hanes traul a chynnyrch eu cloddfeydd.  Y mae y manufacturers yn dyfal ymgais o hyd am berffeithio eu peiriannau.  Y mae y masnachwr yn astudio yn barhaus y dulliau goreu i drefnu cistau a shelffydd a byrddau