Index: Songs

Hiraeth

Traditional

Contributed by: David Wood

Dwedwch fawrion o wybodaeth
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth,
A pha ddefnydd a roed ynddo
Na ddarfyddo wrth ei wisgo?

Derfydd aur a derfydd arian,
Derfydd melfed, derfydd sidan,
Derfydd pob dilledyn helaeth -
Eto er hyn, ni dderfydd hiraeth.

Hiraeth mawr a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn torri 'nghalon;
Pan fwyf dryma'r nos yn cysgu,
Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry.