Index: Songs

Cof am y cyfiawn Iesu

Author: William Lewis, Llangloffan (fl. 1786-1794)

Contributed by: David Wood


Mannheim (Hans Leo Hassler)

Cof am y cyfiawn Iesu,
Y Person mwyaf hardd,
A’r noswaith drom anesmwyth
Bu’n chwysu yn yr ardd;
A’i chwys yn ddafnau cochion
Yn syrthio ar y llawr:
Bydd canu am ei gariad
I dragwyddoldeb mawr.

Cof am y llu o filwyr
Â’u gwaywffyn yn dod
I ddal yr Oen diniwed
Na wnaethai gam erioed:
Gwrandewch y geiriau ddwedodd,
(Pwy allsai ond Efe?)
‘Gadewch i’r rhain fynd ymaith,
Cymerwch Fi’n eu lle.’

Cof am yr wyneb siriol,
Y poerwyd arno’n wir;
Cof am y cefen gwerthfawr,
Lle’r arddwyd cwysau hir;
O! annwyl Arglwydd Iesu,
Boed grym dy gariad pur
Yn torri ’nghalon galed
Wrth gofio am dy gur.