Index: Taliesin

Urien Vrechwydd - Llyfr Taliesin 57

Author: Taliesin

Contributed by: David Wood

Urien Yrechwydd - Llyfr Taliesin #57

Uryen yr echwyd. haelaf dyn bedyd.
lliaws a rodyd y dynyon eluyd.
Mal y kynnullyd yt wesceryd.
llawen beird bedyd tra vo dy uuchyd.
ys mwy llewenyd gan clotuan clotryd.
ys mwy gogonyant vot Uryen ae plant.
Ac ef yn arbennic yn oruchel wledic.
yn dinas pellennic. yn keimyat kynteic.
lloegrwys ae gwydant pan ymadrodant.
agheu a gawssant a mynych godyant
llosci eu trefret a dwyn eu tudet
ac eimwnc collet a mawr aghyffret
heb gaffel gwaret. rac vryen reget.
Reget diffreidyat clot ior agor gwlat
vy mod yssyd arnat. O pop erclywat
dwys dy peleitrat pan erclywat kat.
kat pan y kyrchynt gwnyeith a wneit.
Tan yn tei kyn dyd rac vd yr echwyd.
Yr echwyd teccaf ae dynyon haelhaf.
gnawt eigyl heb waessaf. am teyrn glewhaf.
glewhaf eissyllyd tydi goreu yssyd.
or a uu ac a uyd. nyth oes kystedlyd.
pan dremher arnaw ys ehalaeth y braw.
Gnawt gwyled ymdanaw am teyrn gocnaw.
Amdanaw gwyled. a lliaws maranhed
eurteyrn gogled arbenhic teyrned. 

Ac yny vallwyf hen
Ym dygyn agheu aghen.
ny bydif ym dirwen
na molwyfi vryen.