Contributed by: David Wood
Medraf ganu ffarwel
I'r mynyddoedd mawr;
Medraf beidio â disgwyl
Tlysni'r hwyr na'r wawr.
Nid oes arnaf hiraeth
Am na choed na lli;
Ac nid ydyw'r Gwyliau
Fawr o bwys i mi.
Er nad wyf ond ifanc,
Gwn am waetha'r byd,
Ac mi fedraf ganu
Ffarwel iddo i gyd -
Medraf, unrhyw bryd.
Nid yw tragwyddoldeb
Yntau'n poeni 'mron -
Pam yr ofnaf hwnnw
Mwy na'r foment hon?
Ond mae arnaf arswyd
Canu'n iach ag un, -
Arswyd gadael honno
Yn y fath fyd ei hun.
O, na fedrem groesi
Freichfraich dros y lli,
Minnau'n marw'r marw
Bennwyd iddi hi -
F'annwyl unig i!