Contributed by: David Wood
Anweledig, 'r wy'n dy garu,
Ac ni fedda' i yn y byd
Wrthrych alla' i bwyso arno,
Wrthrych da rhoi iddo 'mryd;
'Does fy lleinw
O bob pleser ond dy hun.
Ti'm harweiniast o'r creadur
Ar hyd llwybrau geirwon iawn;
Ni ches lonydd gyda 'mhleser
Fyth na bore na phrynhawn;
Yn yr anial
Dwedaist eiriau wrth fy modd.
'R wyf yn fodlon i'th geryddon,
Pan 'nabyddwyf mai dy lais
Sy'n fy nwyn o blith y llewod,
O bob gormes, o bob trais;
Gwell ni diliau
Yw deniadau geiriau'r nef.
'Chlywodd clust, ni welodd llygad,
Ac ni ddaeth i galon dyn
Erioed feddwl na dychymyg
Y fath ydwyt ti dy hun;
Rhagor decach
Wyt nag welodd nef na llawr.
Ac 'r wyf finnau yn dy garu
Uwch a welais eto erioed,
Uwch a glywais sôn amdano,
Neu ynteu a ddychmygais fod;
Dyma fflamau
Perffaith, mwyn trigannau'r nef.