Index: Wyn Williams

Yr Ehedydd

Author: Wyn Williams

Contributed by: David Wood

Gwelais di ar fore o wanwyn
   Yn ymgodi o dy nyth.
Wrth dy wrando'n canu, tybiais
   Na ddychwelet yno byth.

Cymyl gwynion - llwyni'r nefoedd -
   Wedi mynd â'th fryd yn llwyr.
Llwyni gwyrddion - cymyl daear -
   Yw dy gartref yn yr hwyr.

Hiraeth am y lasnen dyner
   Aeth â thi i fro y wawr.
Hiraeth am y nyth a'r cywion
   Eilwaith ddaeth â thi i lawr.