Index: Wyn Williams

Yr Wylan

Author: Wyn Williams

Contributed by: David Wood

Cofiaf im dy wylio'n troelli
   Uwch anniddig ferw'r don,
Gwawl machludiad oedd yn twynnu
   Nes goreuro'th gannaid fron.

Rhydd a gwamal, troelli beunydd
   Mor ddiflino'r oeddit ti.
Do, disgwyliais mai gorffwyso
   Wnaet ar fynwes oer y lli.

Chwim ac ebrwydd ymaith hedaist
   A'th adenydd uwch y lli
Fel y dwylo gwynion welais
   Gynt yn canu'n iach i mi.